Dydd Sul, 28 Chwefror 2021

Ymhen ychydig ddyddiau, bydd hi’n Ddydd Gŵyl Dewi a hwnnw’n un gwahanol iawn i’r arfer. Dim cyngherddau mawreddog, swperau nac adeiladau yn llawn pobl wedi ymgasglu i ddathlu eu Cymreictod. Felly mae un o ddathliadau amlycaf Cymru yn cael ei ychwanegu at y rhestr hirfaith o gerrig milltir a digwyddiadau sydd wedi cael eu gweddnewid oherwydd y pandemig. Ond fydd hyn yn effeithio ar ein Cymreigrwydd? Heb gawl cennin a chorau’n canu, ydym ni’n llai o Gymry? Mae geiriau’r bardd Eifion Wyn – ‘gwisg genhinen yn dy gap a gwisg hi yn dy galon’ yn awgrymu bod angen mynd yn ddyfnach na’r hyn sydd i’w weld ar yr wyneb (neu’r cap!) os yw rhywun am fod yn ‘Gymro hoff o’th wlad’. Wn i ddim beth ysbrydolodd y bardd i ysgrifennu’r llinell enwog hon, ond mae hi’n adleisio egwyddor bwysig i Gristnogaeth wrth i ni ystyried beth sydd ‘yn ein calon’ a sut mae hynny’n cael ei weld gan eraill.

Nid gweithredoedd rhywun sy’n eu gwneud yn Gristion. Rwy’n dweud hyn gan fod y Beibl yn ein dysgu bod gwir ffydd yn ymddiriedaeth bersonol yn Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr:

‘Os wnei di gyffesu â‘th wefusau, Iesu ydy’r Arglwydd, a chredu yn dy galon fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub. Credu yn y galon sy’n dy wneud di’n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny’n agored.’ (Rhufeiniaid 10:9-10 beibl.net)

Ond wedi dweud hyn, mae’r Beibl hefyd yn pwysleisio’r cysylltiad anorfod rhwng credoau a gweithredoedd. Dywed y Testament Newydd y dylai gwir ffydd yng Nghrist arwain at weithredoedd penodol. Os yw rhywun wedi profi bywyd newydd trwy’r Ysbryd Glân, a maddeuant yn sgil aberth Iesu ar y groes, dylai hyn fod yn amlwg yn eu bywydau. Aeth Iago mor bell â dweud: Fel y mae’r corff heb anadl yn farw, felly hefyd y mae ffydd heb weithredoedd yn farw.’ (Iago 2:26)

Felly yn y cyfnod anodd hwn lle mae cymaint o’r arferol ddim yn opsiwn, dylem ofyn i ni’n hunain, beth sydd yn fy nghalon? Beth ydw i wir yn ei gredu? Ac wrth i ni wneud hynny, fy ngobaith yw y byddwn trwy arweiniad yr Ysbryd Glân yn ymddiried yng Nghrist gan ddod i brofiad dyfnach o gariad Duw. Yn sgil hynny, byddwn wedyn wedi’n harfogi o’r newydd i allu byw’r bywyd o weithredoedd da y mae Duw wedi ei drefnu inni o’r dechrau. (Effesiaid 2:10)

Rhodri

Llais Bro Aled 28.02.21

Comments are closed.