Dydd Sul, 14 Mawrth 2021

Ddydd Sul nesaf bydd hi’n ddiwrnod y cyfrifiad.  Bob deng mlynedd ers 1801 mae hyn wedi digwydd yng Nghymru (oni bai am 1941), ond ydych chi erioed wedi meddwl pam?  I haneswyr, arbenigwyr ieithyddol a phobl sy’n ymddiddori mewn hel achau, mae cyfrifiadau’r gorffennol yn cynnwys peth wmbreth o ystadegau pwysig, ond nid cymdeithasau hanes oedd y tu ôl i’r peth!  Wrth gwrs, tydi’r ymgais i gyfrif a hel gwybodaeth am y boblogaeth ddim yn un newydd.  Mae yna enghreifftiau o bobl Dduw yn cael eu cyfrif yn yr Hen Destament, a’r esiampl Feiblaidd enwocaf yw’r cyfrifiad Rhufeinig olygodd bod Joseff a Mair wedi bod ym Methlehem pan anwyd Iesu. (Luc 2:1-7)

Rhestrwyd nifer o resymau gwahanol pam y dylai llywodraeth Prydain gynnal cyfrifiad ym 1801.  Cyfeiriwyd at yr angen i sicrhau digon o fwyd i’r boblogaeth, ac mor bwysig oedd gwybod faint fyddai’n abl i ymladd mewn rhyfel.  Ond un rheswm arall a nodwyd oedd y byddai cynnal cyfrifiad yn dangos bwriad y llywodraeth i hybu’r hyn sy’n dda i’r cyhoedd.  Hynny yw, bod casglu gwybodaeth am bawb yn fodd i amlygu consýrn y rhai mewn awdurdod dros y boblogaeth ehangach.  Dyna resymeg un llywodraeth ddynol, ond beth am Lywodraethwr daear a nef?  Yn amlwg does dim angen i’r Duw hollalluog gynnal cyfrifiad bob deng mlynedd gan ei fod yn gwybod popeth ac yn gallu rhifo hyd yn oed sawl blewyn sydd ar ben pob un ohonom!  Noda’r Beibl hefyd bod hyd yn oed y meddyliau a’r dyheadau hynny yr ydym am eu cuddio oddi wrth bawb arall yn hysbys i Dduw.

Ac felly, wrth i ni agosáu at y Pasg, meddyliwch pa mor rhyfeddol yw cariad Duw tuag atom.  Er Ei fod yn gweld popeth am ein gweithredoedd, ein geiriau a’n meddyliau pechadurus, mae’n parhau i ddymuno daioni ar ein cyfer!  Does neb ohonom yn haeddu hyn, ond trwy ei ras, mae Duw yn rhoi’n hael ac yn ein galw i brofi Ei ddaioni tragwyddol trwy roi ein ffydd yn ei Fab annwyl Iesu.  Beth am i ni dreulio peth amser yr wythnos hon yn myfyrio ar eiriau cofiadwy Rhufeiniaid 5:6-8 cyn gweddïo mawl a diolchgarwch i’r Duw sy’n llawn cariad.

Oherwydd y mae Crist eisoes, yn yr amser priodol, a ninnau’n ddiymadferth, wedi marw dros yr annuwiol.  Go brin y bydd neb yn marw dros un cyfiawn.  Efallai y ceir rhywun yn ddigon dewr i farw dros un da.  Ond prawf Duw o’r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.

Rhodri

Llais Bro Aled 14.03.21

Comments are closed.