Mae gan bawb ohonom ein harferion Nadoligaidd gwahanol, ac un o’m rhai i yw gwneud fudge, neu ‘cyffug’ i roi’r enw Cymraeg cywir yn ôl y Geiriadur. (Ymddiheuriadau i’r rhai ohonoch sydd â dim i’w ddweud wrth y math arbennig yma o ddanteithion!) Un o atgofion byw fy mhlentyndod yw syllu ar mam wrth y stof yn cymysgu a minnau ar bigau’r drain yn methu disgwyl i gael blasu’r cynnyrch gorffenedig. Ac wedi tyfu’n oedolyn, daeth y cyfle i ddilyn yn ôl troed mam wrth fynd i’r gegin a choginio gyda fy mhlant innau. Ond eleni cafwyd siom! Er fy mod wedi pwyso’r cynhwysion yn ofalus a defnyddio thermomedr, nid fudge a gafwyd ond rhywbeth tebycach i sôs caramel!
Beth aeth o’i le tybed? Holais gogyddion llawer mwy profiadol na mi, a chwilio am atebion ar y we, lle daeth yn amlwg fod nifer o wersi oedd angen i mi eu dysgu. Ond ar y pryd doedd hynny’n fawr o gysur wrth i mi syllu’n siomedig ar y glud melys o’m blaen!
Tra byddwn yn byw mewn byd syrthiedig, daw siomedigaethau a cholledion difrifol i ran pawb ohonom rywbryd. Gall y rhain fod yn brofedigaethau, yn siom mewn pobl (gan gynnwys ni’n hunain), neu’n ddigalondid oherwydd sefyllfaoedd annymunol. Bydd hyn yn effeithio pobl o bob math o gredoau a chefndiroedd, ac mae’n bwysig cofio nad yw dilyn Crist yn gwarantu bywyd cyfforddus i neb. Ond diolch byth, nid yw Gair Duw yn ein gadael heb gysur. Oherwydd wrth ddarllen gwahanol hanesion yr Hen Destament down ar draws nifer o bobl yr Arglwydd a gafodd eu cynnal a’u nerthu trwy ddryswch a thor-calon eithafol megis Joseff, Daniel a Job. Ac mae’r Testament Newydd hefyd yn annog Cristnogion i wynebu profiadau anodd bywyd trwy ffydd, er cymaint o frwydr yw hynny yng nghanol ein gwewyr.
Gallwn wneud hyn nid oherwydd unrhyw gryfder cynhenid ynom ni, ond wrth bwyso yn ein gwendid ar ein Gwaredwr Iesu Grist a goncrodd bechod a marwolaeth ar ein rhan. Rhoddodd Iesu ei fywyd dros rai annheilwng, ac yna rhoddodd Ei Ysbryd i’n galluogi i orlifo â gobaith. (Rhufeiniaid 15:13)
Beth bynnag ddaw i’n rhan, cofiwn anogaeth Paul yn Rhufeiniaid 5:5-6 beibl.net:
5 Dŷn ni’n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau drwy roi’r Ysbryd Glân i ni!6 Pan oedd pethau’n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma’r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg!
Rhodri