Dydd Sul, 13 Chwefror 2022

Wn i ddim sawl gwaith ydw i wedi pasio’r adeiladau a’r tir ar gyrion Penrhyn-coch, ond bob tro y byddaf yn gwneud y daith o ogledd Cymru i Aberystwyth byddaf yn pendroni beth yn union maent yn ei wneud yno? Sôn am y ganolfan oedd yn cael ei hadnabod fel Bridfa Blanhigion Cymru ydw i, sefydliad sydd erbyn hyn yn rhan o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth. Wedi’r pendroni, dyma fynd ati i ddarllen ychydig ar y we, a dysgu am hanes y ganolfan yn cynnal gwaith ymchwil ers dros ganrif bellach. Er nad ydw i’n deall y manylion yn iawn, mae’n debyg bod gwyddonwyr dros y degawdau wedi gweithio ar ffyrdd i sicrhau gwair a phlanhigion addas ar gyfer amaethu – cnydau sy’n cynhyrchu’n helaeth ac yn gallu gwrthsefyll sychder ac amrywiol glefydau.

Ac wrth ystyried cyfraniad arbennig y gwyddonwyr hyn yn creu cynnyrch addas ar gyfer sefyllfa benodol, meddyliais mor eithriadol o addas yw Iesu Grist i fod yn Waredwr y byd. (Ioan 4:42) Wrth gwrs mae’n rhaid pwysleisio nad yw Crist wedi cael ei greu gan mai Mab tragwyddol ydyw, yn bodoli ers cyn creu’r bydysawd gyda’r Tad a’r Ysbryd Glân. Ond wrth i ni ddarllen y Beibl, mor hyfryd yw sylweddoli mai cariad y Drindod sanctaidd olygodd bod Mab Duw wedi gwisgo cnawd a dod i’n byd wrth iddo gael ei eni’n fab i Mair.

A phwy sy’n cymharu â’n Harglwydd Iesu Grist? Yn ein gwendid, Iesu yw’r unig un sy’n deall ein sefyllfa’n iawn (Hebreaid 4:15), ac sy’n ein hannog i ddod ato Ef i brofi gorffwys o dan ei iau ( Mathew 11:28-29). Iesu’n unig sydd wedi talu’r pris am ein hanufudd-dod a’n gwrthryfel wrth farw ar y Groes, fel bod unrhyw bechadur euog, o droi at Grist mewn ffydd yn gallu pwyso ar yr addewid: Ond dydy’r rhai sy’n perthyn i’r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi!’ (Rhufeiniaid 8:1 beibl.net)

Hyd yn oed yn ein hansicrwydd a’n dryswch, Iesu yw’n pencampwr a’n hyfforddwr (Hebreaid 12:2), a’r Athro sydd wedi rhoi Ei Ysbryd i’n harwain yn yr holl wirionedd. (Ioan 16:13) A phan fo breuder bywyd yn frawychus o amlwg, Iesu yw’r atgyfodiad a’r bywyd, yr un sydd wedi concro marwolaeth a sicrhau i’w bobl fywyd tragwyddol. (Ioan 11:25-26)

Dy gamweddau a ddilea,
pwy fel efe!
Dy elynion oll, fe’u maedda,
pwy fel efe!
Cei bob bendith iti’n feddiant,
hedd a chariad a’th ddilynant,
Crist a’th arwain i ogoniant,
pwy fel efe!

(Pedr Fardd)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 13.02.22

Comments are closed.