Gofynnodd rhywun i mi’n ddiweddar wrth i ni drafod yr erchylltra sy’n digwydd yn Wcráin, sut mae Cristnogion i fod i faddau mewn sefyllfa fel hyn? Cwestiwn anodd ei ateb, ac yn enwedig felly pan ystyriwn loes enfawr pobl Wcráin oherwydd yr ymosodiad dieflig arnynt. Gallwn ddeall a chydymdeimlo’n llwyr wrth wrando ar eu dicter a’u hymrwymiad i sicrhau nad yw Putin a’i luoedd yn ennill y dydd. Dyna pam fod maddeuant yn rhywbeth hawdd i siarad amdano, ond yn gostus eithriadol i’w weithredu o ddifrif. Ein greddf pan fydd rhywun yn gwneud drwg i ni neu’n hanwyliaid yw talu’r pwyth yn ôl, gan geisio gwneud iawn am y poen a’r golled yr ydym ni wedi ei brofi. Wrth faddau i’r rhai sy’n gwneud drwg i ni, rydym yn ymrwymo i frwydro yn erbyn y reddf honno, a pheidio dal gafael ar chwerwder na chasineb tuag atynt. Yn hytrach, mae Iesu’n ein hannog i wneud daioni i’r bobl sy’n ein casáu, a gweddïo dros y rhai sy’n ein cam-drin. (Luc 6:27-28 beibl.net) Bydd angen nerth a chariad rhyfeddol i fedru gwneud hyn – sy’n egluro pam bod Gweddi’r Arglwydd yn clymu’r maddeuant y mae’r Cristion yn ei dderbyn gan Dduw gyda’r maddeuant yr ydym ni i’w ddangos tuag at eraill: ‘a maddau inni ein troseddau, fel yr ŷm ni wedi maddau i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn.’ (Mathew 6:12) Hynny yw, trwy dderbyn maddeuant a chariad diderfyn Duw yn Iesu Grist, mae’r Cristion yn cael ei ddarparu â’r hyn sy’n gwneud maddau i bobl eraill yn bosib.
Wedi dweud hyn i gyd, rhaid i ni beidio gor-symleiddio pethau nes honni mai maddeuant yw’r unig beth i’w ystyried mewn sefyllfa o’r fath. Yn y Beibl, gwelwn nad yw maddeuant yn dod ar draul cyfiawnder, ac ni ddylai fyth fod yn esgus i ddrygioni barhau. Cofiwn fod sail Feiblaidd i ddicter yn wyneb drygioni ac anghyfiawnder. Maddeuodd Duw ein pechodau wrth i Iesu brofi cosb gyfiawn Duw am bechod yn ein lle ar y Groes. Os ydym wir am garu’n gelynion, byddwn yn gweddïo ac yn gweithredu i atal y drygioni y maent yn ei gyflawni, gan erfyn ar iddynt edifarhau am eu gweithredoedd. Dyma’r unig ffordd i gychwyn y daith hir a phoenus at gymod rhwng dioddefwyr a’r rhai sy’n cyflawni drygioni.
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 27.03.22