Dwi’n siŵr y gall pawb o bob oed restru problemau enfawr sydd wedi dod i’n rhan dros y ddwy flynedd ddiwethaf. O’r argyfwng iechyd i’r wasgfa ar bron bob rhan o’r economi, mae Covid wedi gadael ei ôl. Ond wrth i ni ystyried yr effaith arnom fel eglwysi a chymunedau, un o’r canlyniadau amlycaf yw ein bod wedi teimlo’n llawer mwy ynysig. Gan fod y cysylltiadau arferol rhyngom ag eraill wedi gorfod cael eu torri, aeth ffrindiau a chymdogion yn ddieithr, a blynyddoedd yn pasio heb i ni ymwneud â rhai pobl er eu bod yn byw yn eithaf agos. Cefais sgwrs â’m cyfnither (o Gaernarfon) yr wythnos diwethaf, a sylweddoli nad oeddem wedi gweld ein gilydd ers bron i dair blynedd, ac mai hwnnw oedd y bwlch hiraf ar hyd ein hoes.
Wrth feddwl am hyn, cefais fy atgoffa o ddyfyniad enwog gan yr Albanwr duwiol Robert Murray M’Cheyne. Gweinidog Presbyteraidd yn Dundee oedd M’Cheyne, a bu farw yn 29 mlwydd oed ym 1843. Dyma’r dyfyniad: “If I could hear Christ praying for me in the next room, I would not fear a million enemies. Yet distance makes no difference. He is praying for me.”
Pan ddarllenwn am ddyddiau olaf Iesu cyn ei groeshoeliad, mae’n nodedig cymaint yr oedd yn gweddïo. Wrth gwrs byddwn yn meddwl am y weddi ddirdynnol yn yr ardd yng Nghethsemane, ond mae’r Efengylau hefyd yn cofnodi bod Iesu’n barod i weddïo dros Pedr cyn iddo’i wadu (Luc 22: 32), a’i ddisgyblion trwy’r oesoedd (Ioan 17:20-26).
Byddwn yn clywed yn gyson cymaint o les sy’n dod o brofi cefnogaeth ffrindiau a theulu, yn enwedig mewn cyfyngderau. I’r Cristion, mae gwybod bod eraill yn gweddïo drosom nid yn unig yn gysur, ond yn ffynhonnell o nerth a gobaith wrth i ni gyd-ymddiried yn y Duw sy’n gwrando ar ein gweddïau ac sy’n dweud wrthym yn ei Air: ‘Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn.’ (Iago 5:16) Ond cymaint o fendith yw gwybod bod yr Arglwydd Iesu yn gweddïo drosom!
Oherwydd bod Iesu wedi codi’n fyw o’r bedd mae’n fyw yn awr, ac yn ymbil dros ei bobl ar ochr dde Duw (Rhufeiniaid 8:34). Er nad ydym yn gallu Ei weld, nid oes angen i ni amau. Sut bynnag y mae pethau arnom ar hyn o bryd, cofiwn anogaeth Hebreaid 4:16,
‘Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.’
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 10.04.22