Profiad diddorol yw symud tŷ! Efallai fod rhai ohonoch wedi clywed ein bod wedi newid aelwyd yn ddiweddar wrth i waith adnewyddu gychwyn yn Heulfryn, a diolch i bawb sydd wedi’n helpu hefo’r holl broses. Wedi’r gwaith ymarferol o bacio, trefnu a symud pethau o un lle i’r llall, rhaid dadbacio a cheisio cofio lle mae popeth wedi’i gadw! Ar ôl hyn i gyd mae’r cyfnod o gynefino yn dechrau – setlo yn y tŷ newydd a chychwyn ar fod yn gartrefol.
Gwnaeth hyn i mi ddechrau pendroni beth yw ystyr bod yn gartrefol? Byddwn yn clywed y gair yn cael ei ddefnyddio’n aml i ddisgrifio awyrgylch digwyddiadau neu leoliadau arbennig, ond tybed beth sy’n gwneud i chi deimlo’n gartrefol?
Mae’n debyg y byddai atebion pawb ohonom fymryn yn wahanol i’w gilydd, ond gallaf ddychmygu bod elfennau o berthyn, a bod yn fodlon a diogel yn eithaf pwysig. Ac oherwydd hynny, mae’n siŵr y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn reddfol yn meddwl am fod yn gartrefol fel peth cadarnhaol.
Ond wrth i ni droi at y Beibl gwelwn ddysgeidiaeth ychydig yn wahanol. Er enghraifft, fwy nag unwaith yn ei lythyr cyntaf, mae Pedr yn cyfeirio at Gristnogion, nid fel rhai sydd i fod yn gartrefol, ond fel dieithriaid neu alltudion yn y byd. Dywed 1 Pedr 2:11 (beibl.net): ‘Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy’ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma. Felly dw i’n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae’r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw’n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni.’
Wrth gwrs, nid rhybuddio yn erbyn teimlo’n gartrefol ar unrhyw gyfrif y mae Pedr, ond pwysleisio nad yw’r Cristion i fod yn gartrefol mewn byd annuwiol sy’n gwrthryfela yn erbyn yr Arglwydd a’i ffyrdd. Dyna pam y mae’r adnod yn cynnwys apêl i’r Cristnogion beidio ildio i’w chwantau pechadurus fydd yn gwneud niwed i ni a’r bobl o’n cwmpas. Rydym fel Cristnogion felly i ddisgwyl teimlo’n ddieithr neu’n anghyfforddus mewn rhai sefyllfaoedd gan fod Crist yn ein galw i fod yn halen y ddaear ac yn oleuni’r byd. (Mathew 5:13-14)
Nid yn y byd y mae’r Cristion i deimlo’n gartrefol, ond yn Iesu Grist wrth i ni fwynhau’r bendithion sy’n llifo tuag atom yn nheyrnas Duw. Trwy ymddiried yn y Gwaredwr, byddwn yn un o’i deulu, yn ddiogel am byth wedi derbyn y ‘blaendal sy’n gwarantu’r ffaith bod lle wedi’i gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i’w feddiannu’n llawn. Rheswm arall i’w foli am ei fod mor wych!’ (Effesiaid 1:14 beibl.net)
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 08.05.22