Dydd Sul, 18 Medi 2022

Fyth ers y cyhoeddiad am farwolaeth Brenhines Elisabeth yr wythnos diwethaf cafwyd teyrngedau lu iddi gan bobl ledled y byd. Cyfeiriodd llawer at ei ffydd Gristnogol, gan ddiolch iddi am ei pharodrwydd i roi mynegiant cyhoeddus i’r hyn oedd yn sylfaen bwysig i’w bywyd a’i gwasanaeth. Hyd yn oed ymhlith gwrthwynebwyr y frenhiniaeth mynegwyd cydymdeimlad gyda’i theulu, a pharch tuag ati fel gwraig urddasol a gymrodd ei dyletswyddau fel pennaeth y wladwriaeth o ddifrif.

Yng nghanol yr holl atgofion, tynnodd un rhan o deyrnged fy sylw yn arbennig. Coffâd o eiddo Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc ydoedd, ble dywedodd fod gan Elisabeth le arbennig ym mywydau pobl oherwydd iddi fod yn bresenoldeb cyson ac arhosol. Mewn byd llawn newid lle mae arweinwyr gwleidyddol yn mynd ac yn dod (yn aml iawn y dyddiau hyn!), yn ôl Macron roedd rhywbeth oedd yn cynrychioli tragwyddoldeb yn perthyn i’r Frenhines – ‘she represented a sense of eternity.’ Ni allaf i na’m rhieni gofio amser pan nad oedd Elisabeth ar yr orsedd, ac felly gallaf ddeall pam y byddai pobl yn meddwl amdani fel rhywun fyddai yno am byth, ond mae’r wythnos ddiwethaf wedi amlygu realiti poenus marwolaeth i ni. Fel rhan o’r datganiad am farwolaeth y Frenhines cyhoeddwyd bod ei mab, Charles, bellach yn Frenin. Dyna’r broses gyfansoddiadol sydd rhaid ei dilyn, ond roedd hefyd mewn brawddeg gwta yn nodi nad yw Elisabeth, yn fwy nag unrhyw frenin neu frenhines ddaearol arall, yn teyrnasu’n dragwyddol.

Er mor anodd yw wynebu diwedd oes unrhyw un, nid yw’r Beibl yn ceisio osgoi’r pwnc. Cawn ein hatgoffa’n gyson fod y cryfaf ohonom yn feidrol, a dros dro fydd ein bodolaeth mewn byd syrthiedig: Y mae’r meidrol yn union fel anadl, a’i ddyddiau fel cysgod yn mynd heibio.’ (Salm 144:4) Gallai geiriau fel yma’n hawdd ein harwain at anobaith, ond maent wedi’u cynnwys yn y Beibl sydd hefyd yn dweud fod yna Un tragywydd: ‘Cyn geni’r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a’r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.’ (Salm 90:2)

A’r hyn sy’n gwneud Cristnogaeth y newyddion gorau erioed yw’r ffaith bod y Duw tragwyddol wedi gwisgo cnawd, ac o’i fawr gariad bod Iesu wedi wynebu a choncro marwolaeth ar ein rhan. Golyga buddugoliaeth y groes a’r bedd gwag y gall unrhyw un ohonom, boed o deulu cyffredin neu frenhinol, trwy ffydd yn Iesu Grist etifeddu bywyd tragwyddol. Cofiwn addewid Iesu i’w braidd –

‘Yr wyf fi’n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o’m llaw i.’ (Ioan 10:28)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 18.09.22

Comments are closed.