Oedd y newyddion yn annisgwyl? Neu oeddech chi’n synnu dim o glywed yr ystadegau diweddaraf? Dros y pythefnos diwethaf mae canlyniadau Cyfrifiad Cenedlaethol 2021 wedi cael cryn sylw. Y prif benawdau oedd bod 43.6% o bobl Cymru’n uniaethu â Christnogaeth, a’r canran o siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 17.8%. Wrth ganolbwyntio ar y ffigyrau moel mae’n naturiol eu bod yn cael eu disgrifio fel dirywiad sy’n peri siom i Gymry Cymraeg a Christnogion fel ei gilydd. Ond mae’n rhaid i ni gofio mai math arbennig o ddarlun y mae cyfrifiad yn ei roi. Nid yw’n dweud llawer wrthym am gyflwr cymunedau Cymraeg nac ychwaith beth mae ticio’r blwch Cristnogaeth ar ffurflen yn ei olygu!
Mae’n siŵr eich bod wedi clywed am darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond os na fydd hynny’n cynnwys cymunedau Cymraeg, slogan wag fydd hi. Prin y gallwn ei gyfri’n llwyddiant cael miliwn o siaradwyr os yw’r iaith Gymraeg yn ddim mwy na sgil y gellir ei defnyddio fel tric mewn parti!
Ac wrth i ni feddwl am Gristnogaeth yng Nghymru, nid faint sy’n ticio bocs yw’r ffactor allweddol, ond beth yw natur y Gristnogaeth honno. Oherwydd nid i berthynas lled-braich y mae Duw yn ein galw yn Iesu Grist ond i berthynas agos o garu, ymddiried, ac ufuddhau i’r Un a ddioddefodd ‘un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i’ch dwyn chwi at Dduw.’ (1 Pedr 3:18)
Dyma’r newyddion da sy’n sail i apêl hyfryd un o’n carolau plygain enwocaf:
Am hyn, bechadur, brysia
fel yr wyt,
ymofyn am y noddfa
fel yr wyt;
i ti’r agorwyd ffynnon
a ylch dy glwyfau duon
fel eira gwyn yn Salmon
fel yr wyt,
gan hynny tyrd yn brydlon
fel yr wyt. (Eos Iâl)
Mae bod yn wir ddisgybl i Grist yn golygu bywyd newydd a theulu newydd! Fel y gwelwn yn yr adnod uchod, bydd y rhai sy’n ymddiried yng Nghrist yn cael mynediad at Dduw o ganlyniad i aberth y Gwaredwr. Fe gânt hefyd eu huno â’i gilydd yn gorff Crist – cymuned gariadus o bobl a dderbyniodd yr Ysbryd Glân i’w galluogi i foli, gwasanaethu a thystiolaethu i gariad Duw ym mhob oes.
Boed ni’n byw mewn cyfnod o fendith amlwg, neu’n nofio yn erbyn y llif fel lleiafrif yn ein cymunedau, yr un yw galwad Duw i’w bobl: ‘Byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd, yn cyflwyno gair y bywyd.’ (Philipiaid 2:15-16)
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 11.12.22