Fel cyfnod y Nadolig, mae blwyddyn newydd hefyd yn tueddu i ennyn teimladau tra gwahanol ymhlith pobl. Gall fod yn arwydd o obaith a her gyffrous i rai, tra bydd eraill a glwyfwyd gan ddigwyddiadau 2022 yn troi tudalen y calendr newydd yn llawer llai brwdfrydig.
Yr hyn sy’n achosi cyffro neu bryder yw’r ffaith nad oes neb ohonom yn gwybod yn iawn beth sydd o’n blaenau. Rhaid i hyd yn oed yr arbenigwyr praffaf ddelio gydag ansicrwydd parhaus a chydnabod nad yw’r ddynoliaeth yn medru rheoli popeth. Ond nid oes rhaid i hyn ein parlysu. Cofiwn fod nifer o ffigyrau amlwg y Beibl hefyd wedi wynebu anawsterau tebyg, a gallwn ddysgu o’u profiadau hwy.
Ystyriwch Ioan Fedyddiwr er enghraifft. Dyma’r un a lanwyd â’r Ysbryd Glân yng nghroth ei fam, yr un a fedyddiodd ac a gyhoeddodd am Iesu: “Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd!” (Ioan 1:29) Ond er ei weinidogaeth hynod yn paratoi ffordd yr Arglwydd, wynebodd yntau amheuon ac ansicrwydd. Wrth gyfeirio pobl at Iesu, byddai’n galw arnynt i edifarhau am eu pechodau, ac roedd hynny’n cynnwys Herod Antipas, arweinydd Galilea. O ganlyniad carcharwyd Ioan, ac o’r carchar anfonodd ei ddisgyblion at Iesu gan holi: Ai Ef oedd yr un y bu cymaint o ddisgwyl amdano, neu oedd y gwir Feseia eto i ddod?
Byddai’n hawdd i ni fod yn feirniadol o ansicrwydd Ioan, ond nid felly’r ymatebodd Iesu. Yn hytrach, atebodd Crist yn raslon trwy atgoffa Ioan o’r hyn a wnaeth: “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi’i glywed a’i weld: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy’n dioddef o’r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae’r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd! (Mathew 11:4-5 Beibl.net)
Ar ddechrau blwyddyn newydd gyda’n gobeithion a’n hofnau yn gymysgedd ddryslyd, mae geiriau Iesu’n gyngor arbennig i ninnau hefyd. Yng nghanol ein hansicrwydd, edrychwn ar bwy yw’r Arglwydd Iesu gan fyfyrio ar y darluniau a ddefnyddiodd i ddisgrifio’i hun: Bugail Da, Goleuni’r Byd, yr Atgyfodiad a’r Bywyd. Ystyriwch yr hyn a gyflawnodd trwy Ei weinidogaeth, Ei farw aberthol ar y Groes a’i atgyfodiad gogoneddus. Oes yna rywun rhagorach y gallwn ymddiried ein hunain iddynt, sydd wedi talu’n dyled drosom, ac sy’n addo bod gyda ni bob amser? (Mathew 28:20)
Ble gwelir cariad fel
ei ryfedd gariad ef?
Ble bu cyffelyb iddo erioed?
Rhyfeddod nef y nef!
(Iago Trichrug)
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 01.01.23