Mae’n debyg bod nifer ohonoch bellach wedi clywed y newyddion fy mod wedi derbyn galwad i fod yn weinidog ar Gapel y Ffynnon, Bangor o fis Mai ymlaen. Byddaf hefyd yn cael cyfle hefyd i gydlynu Rhwydwaith Daniel Rowland sy’n gynllun hyfforddiant newydd ar y cyd â Choleg Diwinyddol Union, Pen-y-bont ar Ogwr. Fel y gallwch ddychmygu nid oedd yn benderfyniad hawdd i’w wneud, ond wedi cyfnod hir o weddïo rydym yn barod i ddibynnu ar arweiniad Duw i ni fel teulu, fel y byddwn yn ymddiried yn Ei ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol i Fro Aled hefyd. Diolch i chi i gyd am eich gweddïau a’ch cynhesrwydd tuag atom fel teulu, ac am eich holl gefnogaeth dros y blynyddoedd. Nid oes angen dweud na fyddwch fyth ymhell o’n gweddïau.
Yn aml gall sefyllfaoedd annisgwyl ein helpu i sylweddoli beth yr ydym yn dibynnu arnynt, a chawsom brofiad o hyn yn Llansannan wythnos cyn y Nadolig. Torrodd y cysylltiad trydan i’n rhan ni o’r pentref rhwng 3 a 9 yr hwyr, a bu’r oriau hynny o dywyllwch yn ddiddorol a dweud y lleiaf! Rhyfeddais mor frawychus o dywyll oedd Ffordd Gogor heb olau stryd, a bu’n dipyn o gur pen meddwl beth oedd yn bosib hefo llond llaw yn unig o ganhwyllau, a llond tŷ o declynnau amhosib eu defnyddio! Yn ystod y cyfnod heb drydan roeddwn yn gweld ei angen yn enfawr, ond wedi i’r cysylltiad gael ei adfer dychwelais i fywyd arferol heb feddwl rhyw lawer am y peth.
Ac mae yna berygl y gallwn ymddwyn mewn ffordd debyg yn ein perthynas â’r Arglwydd. Gallwn fod yn eiddgar yn gweddïo ac yn moli am gyfnodau, cyn tawelu a chilio wrth i fywyd ‘normal’ ddychwelyd. Ond yn wahanol i gyflenwad trydan, ni fydd yr Arglwydd fyth yn diflannu’n ddirybudd, oherwydd ‘nid yw Ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno’ (Salm 121:4). Ac i’r gwrthwyneb i gwmnïau sy’n elwa wrth gyflenwi egni i’r rhai sy’n talu’n ddrud amdano, mae’r Arglwydd Iesu yn darparu’r hyn sydd ei angen arnom fwyaf, ac wedi talu’r pris yn llawn ar y Groes. ‘Oherwydd y mae Crist eisoes, yn yr amser priodol, a ninnau’n ddiymadferth, wedi marw dros yr annuwiol.’ (Rhufeiniaid 5:6)
Yn y pen draw, nid oes gan y cwmni sy’n dod â thrydan i’ch tŷ lawer o ddiddordeb mewn perthynas bersonol. Os yw’r ymwneud masnachol rhyngoch yn gweithio heb ormod o gyfathrebu, gorau oll iddynt hwy! Ond nid felly y mae rhwng yr Arglwydd Dduw a ni. Trwy’r Arglwydd Iesu mae wedi’n ceisio er gwaethaf ein crwydro, a thrwy’r Efengyl mae’n ein galw ni oll ato heddiw i berthynas dragwyddol o ymddiried ynddo a mwynhau ei gariad a’i gwmni.
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 15.01.23