Dydd Sul, 29 Ionawr 2023

Ddydd Llun diwethaf daeth cyfle i mi gerdded ychydig yng nghwmni Andras Iago.  Dechreuodd y daith ar y gwastad o gwmpas Llyn Crafnant, ond gan fod Andras yn llawer mwy ffit ac anturus na mi, awgrymodd y gallem fentro i fyny’r llethrau i gyfeiriad Crimpiau – copa 475m o uchder rhwng Llyn Crafnant a Chapel Curig.  Ar y brig cawsom sgwrs gyda cherddwr arall oedd yno o’n blaenau.  Pan ofynnodd i ni oeddem ni’n lleol, a minnau’n pwyntio at fy nghyn-gartref oddi tanom, dywedodd yn frwdfrydig – ‘mae’n rhaid dy fod yn adnabod y mynyddoedd yma fel cefn dy law?’  Dwi’n siŵr fy mod wedi gwrido cryn dipyn wrth gyfaddef nad oedd hynny’n wir!  Serch fy mod wedi fy magu yng nghanol mynyddoedd Eryri, dim ond llond llaw o gopaon yr wyf wedi eu cyrraedd.  Mwya’r cywilydd, er eu bod ar ein stepen drws yng Nghapel Curig, methais wneud y mwyaf o’r cyfleoedd arbennig i’w mwynhau!

Ac mae hynny’n beth hawdd i ddigwydd i lawer ohonom.  Rydym ni’n byw mewn cyfnod lle mae pob math o wybodaeth ddim ond clic i ffwrdd oddi wrthym.  Ddwy ganrif yn ôl bu Mari Jones yn barod i gerdded milltiroedd lawer er mwyn prynu Beibl iddi’i hun.  Ond erbyn hyn, dwi’n siŵr fod y rhan fwyaf ohonom hefo mwy nag un Beibl yn y tŷ, heb sôn am y casgliad enfawr o Feiblau Cymraeg a Saesneg, pregethau, ac astudiaethau Beiblaidd sydd ar gael yn ddidrafferth ar y we.  Er yr holl gyfoeth o adnoddau, mor hawdd yw colli’r cyfleoedd arbennig i ryfeddu at ddaioni Duw a thyfu’n debycach i’r Arglwydd Iesu trwy ddarllen, myfyrio, gweddïo a byw bywyd o addoliad gyda’n cyd-Gristnogion.

Dros y blynyddoedd, dau brif beth sydd wedi fy symbylu i gerdded mynyddoedd: anogaeth ffrindiau a sylweddoli drosof fy hun cymaint yr wyf yn mwynhau ar y llethrau.  Ydym ni wedi rhoi’n ffydd yng Nghrist a phrofi’r cariad a’r maddeuant unigryw sydd ond yn dod trwyddo Ef?  Ac wedi hynny, ydym ni’n barod i annog eraill i ymuno â ni ar y daith yn hyderus fod Iesu’n fwy na digon i’n bodloni?

Ar ôl eu sgwrs wrth ffynnon Jacob, aeth y wraig a fu’n siarad ag Iesu i ffwrdd gan gyhoeddi wrth eraill ei bod yn tybio iddi gyfarfod y Meseia.  Credodd llawer o Samariaid yng Nghrist wedi tystiolaeth hynod y wraig, ond mae’r bennod yn mynd ymlaen i nodi – A daeth llawer mwy i gredu ynddo trwy ei air ei hun.  Meddent wrth y wraig, “Nid trwy’r hyn a ddywedaist ti yr ydym yn credu mwyach, oherwydd yr ydym wedi ei glywed drosom ein hunain, ac fe wyddom mai hwn yn wir yw Gwaredwr y byd.” (Ioan 4:41-42)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 29.01.23

Comments are closed.