Dydd Sul, 12 Chwefror 2023

Ddydd Llun y daeth y newyddion cyntaf am y daeargryn dinistriol yn Nhwrci. Ac wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen clywsom a gwelsom fwy a mwy am y sefyllfa dorcalonnus gyda niferoedd y marwolaethau yn cynyddu bob dydd. Sut allwn ni ymateb yw’r hyn sydd ar feddwl nifer ohonom. Beth am i ni ymroi i weddïo dros y rhai yng nghanol y dinistr, boed hwy wedi colli anwyliaid, wedi’u hanafu neu mewn sioc o golli cartref neu waith? Cofiwn hefyd am bawb fydd yn gweithio’n ddiflino i geisio bod o gymorth i eraill yng nghanol y chwalfa. Ac yn ymarferol gallwn hefyd gyfrannu tuag at apêl DEC sy’n cael ei chrybwyll mewn man arall o’r rhifyn hwn o Lais Bro Aled.

Yn naturiol bydd digwyddiadau o’r fath yn codi cwestiynau digon anodd ynglŷn â dioddefaint. Ac nid ni yw’r cyntaf i feddwl am faterion o’r fath. O droi at y Testament Newydd, gwelwn fod Iesu wedi ateb cwestiwn a ofynnwyd iddo yn sgil trychineb. Os edrychwch ar Luc 13:1-5 mae Iesu’n ymateb i gyflafan lle cafodd Iddewon yng Ngalilea eu lladd gan luoedd Rhufeinig Pilat. Ac wrth iddo ateb y cwestiwn, mae’n cyfeirio at drasiedi arall fyddai’n gyfarwydd i bobl o’i gwmpas ar y pryd, pan ddisgynnodd tŵr Siloam a lladd deunaw o bobl yn Jerwsalem.

Neges fawr Iesu yn Luc 13 yw bod angen i bawb edifarhau: syrthio ar ein bai, cefnu ar ein ffyrdd pechadurus, a throi at Dduw mewn ffydd. Efallai eich bod yn meddwl fod hynny’n rhyfedd yng nghyd-destun sgwrs am drychinebau, ond mae Iesu am i ni bwyso a mesur ein cyflwr ein hunain. Yn hytrach na chynnig atebion ynglŷn â dioddefaint, neu bwy yw’r pechaduriaid mwyaf, mae Iesu’n ein cymell i sylweddoli mai dinistr tragwyddol fydd diwedd pawb ohonom oni bai ein bod yn ymateb i alwad yr Efengyl mewn ffydd ac edifeirwch. Dyma neges sydd i fod i’n deffro, ond sydd hefyd yn dangos adnabyddiaeth Iesu ohonom. Mor hawdd yw i ni guddio tu ôl i beth sy’n digwydd i bobl eraill heb ystyried beth sy’n digwydd yn ein bywydau ein hunain.

Rydym i gyd yn byw mewn byd syrthiedig lle na allwn osgoi effeithiau dyrys poen, drygioni a marwolaeth. Cwestiwn Iesu yw sut yr ydym ni’n ymateb i hynny? Newyddion godidog y Beibl yw bod Duw eisoes wedi ymateb i’n sefyllfa argyfyngus mewn cariad trwy anfon ei Fab atom i’n hachub.

‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’ (Ioan 3:16)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 12.02.23

Comments are closed.