Dydd Sul, 9 Ebrill 2023

Profiad digon rhyfedd yw cael eich atgoffa o rywbeth yr oeddech wedi ei anghofio. Mae wedi digwydd fwy nag unwaith i mi yn ddiweddar, a hynny’n bennaf oherwydd clyfrwch ffonau symudol a chyfrifiaduron. Erbyn hyn gall nifer o raglenni ddod â hen luniau neu fideos i’ch sylw i goffáu beth ddigwyddodd ar y diwrnod hwn flynyddoedd yn ôl. Yr wythnos diwethaf gwelais hen fideo o Lleucu’n canu a achosodd i mi ryfeddu gan mai prin yr oeddwn yn ei hadnabod, cymaint y mae hi wedi newid ers hynny. Atgoffa dymunol oedd hynny, ond gwyddom fod atgofion yn gallu effeithio’n drwm arnom, a bod yn eithriadol o boenus hefyd os ydynt yn ein hatgoffa o gyfnod neu berson annwyl yr ydym yn hiraethu amdanynt.

Dros y dyddiau nesaf bydd Cristnogion ar draws y byd yn cael eu hatgoffa o’r hyn a ddigwyddodd i’r Arglwydd Iesu oddeutu dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Trwy gyfrwng darlleniadau o’r Beibl, emynau a phregethau, clywir am Fab Duw yn cael ei arestio a’i groeshoelio rhwng dau leidr, cyn i’w gorff gael ei roi mewn bedd. Petai hanes y Pasg yn gorffen yn y fan yma, mae’n annhebygol y byddai unrhyw un yn mentro galw’r hanes yn ‘newyddion da’. Ond ar y trydydd dydd daeth neges ryfeddol yr oedd y ddwy Fair i’w rhannu â gweddill y disgyblion: “Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr y mae’n mynd o’ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.” (Mathew 28:7)

Oherwydd yr Atgyfodiad mae Cristnogion yn cael eu hatgoffa o’r hyn ddigwyddodd i Grist yn ei gwmni Ef, gyda buddugoliaeth Iesu dros bechod a marwolaeth yn rhoi gobaith hyd yn oed i’r rhai sy’n hiraethu a galaru. I’r Cristion mae’r Pasg yn amser i fyfyrio ar ddifrifoldeb pechod a mawredd cariad Duw sydd wedi’i amlygu yn aberth unigryw ei Fab.

‘Drwy aberthu ei hun un waith mae’r Meseia wedi glanhau’n berffaith y bobl mae Duw wedi’u cysegru iddo’i hun am byth.’ (Hebreaid 10:14 Beibl.net)

Felly wrth ddathlu’r Pasg, nid cofio digwyddiadau hanesyddol yn unig yr ydym yn ei wneud, ond gofyn i’r Crist byw, trwy ei Ysbryd Glân, effeithio’n drwm arnom heddiw, a phob dydd o’r newydd.

Cof am yr ŵyneb siriol
y poerwyd arno’n wir;
cof am y cefen gwerthfawr
lle’r arddwyd cwysau hir;
O annwyl Arglwydd Iesu,
boed grym dy gariad pur
yn torri ’nghalon galed
wrth gofio am dy gur.

(Caneuon Ffydd 500)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 09.04.23

Comments are closed.