Dydd Sul, 23 Ebrill 2023

Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân fyddo gyda chwi oll!

Tybed sawl gwaith ydych chi wedi clywed neu ddweud yr ymadrodd enwog hwn? Ond fel cymaint o eiriau cyfarwydd eraill, ydych chi wedi meddwl o ddifrif am ystyr y Fendith?

Geiriau’r Apostol Paul ydynt ar ddiwedd ei Ail Lythyr at y Corinthiaid. Mae hi’n weddi eithriadol o addas wrth ffarwelio â chyd Gristnogion gan ei bod yn gofyn i’r Duw tragwyddol, sy’n Dad, Mab ac Ysbryd Glân, barhau i fendithio’i bobl mewn ffordd arbennig. Dyma grynodeb wych o’r hyn sy’n cael ei brofi gan y rhai sy’n ymddiried yng Nghrist.

Gras ein Harglwydd Iesu Grist yw’r rhodd sy’n golygu fod y pechadur edifeiriol yn derbyn maddeuant a chymod â’r Duw y gwrthryfelodd yn ei erbyn. Disgleiriodd y gras hwnnw trwy fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu – y cyfan wedi digwydd er mwyn achub pobl nad oedd yn haeddu unrhyw ddaioni gan yr Arglwydd.

‘Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau’n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef.’ (2 Corinthiaid 8:9)

Wrth roi ein hunain i’r Arglwydd Iesu, cawn dderbyn cariad diderfyn ein Creawdwr, a thrwy fyfyrio’n gyson ar Air Duw, gallwn ryfeddu gyda’r emynydd Iago Trichrug:

Fe’n carodd cyn ein bod,
a’i briod Fab a roes,
yn ôl amodau hen y llw,
i farw ar y groes.

Ac yn olaf, cymdeithas yr Ysbryd Glân. Yr Ysbryd sy’n byw yn y Cristion gan ei uno mewn ffydd â’r Arglwydd Iesu a’i eni o’r newydd. Ond nid ymwelydd dros dro yw’r Ysbryd gan Ei fod yn parhau i weinidogaethu ynom a thrwom gan ein harwain a’n cymell i garu ac ufuddhau i Dduw. Golyga cymdeithas yr Ysbryd fod Duw ar waith ynom, ond hefyd bod uniad melys wedi’i greu gan yr Ysbryd rhwng Cristnogion a’i gilydd – rhai sydd wedi’u galw i fod yn blant i Dduw, ac yn frodyr a chwiorydd i’w gilydd.

Gan mai hwn yw fy myfyrdod olaf fel gweinidog Bro Aled, pa neges well wrth ffarwelio na geiriau’r Apostol Paul? Diolch o galon i chi am eich caredigrwydd tuag atom fel teulu, a’ch holl weddïau dros y blynyddoedd. Pan ysgrifennais fy myfyrdod cyntaf ar gyfer Llais Aled dechrau Hydref 2009, soniais am yr ychydig fisoedd (!) o’m blaen i ddod i adnabod pobl ac ardal newydd. Bryd hynny, fy ngobaith oedd y byddem yn dod i adnabod yr Arglwydd yn well gan annog ein gilydd i ddibynnu arno Ef. Bron i bedair mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach, ar drothwy’r bennod nesaf, yr un yw fy nyhead drosoch.

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 23.04.23

Comments are closed.