Pen-blwydd Hapus!
Pysgotwr cyffredin oedd Pedr, gŵr medrus am hwylio cychod, trwsio rhwydau a dal pysgod. Nid oedd arwyddion ei fod yn ŵr cyhoeddus, ond dan ddylanwad Ysbryd Duw ar ddydd y Pentecost, fel y gwelwn yn Actau 2, cododd yng nghanol Jerwsalem a rhoi neges rymus i dyrfa fawr. Dyma’r ddinas oedd yn llawn o wrthwynebwyr i Iesu Grist. Heriodd Pedr y rhai alwodd am groeshoelio Iesu i edrych eto ar eu gweithred gan ei fod o’n sefyll fel tyst i’r ffaith fod yr Iesu a groeshoeliwyd yn fyw. Eglurodd fod gwrthod Iesu yn gyfystyr â gwrthod Duw ei hun. Canlyniad ei safiad oedd bod tair mil o bobl wedi newid eu meddwl a throi i ddilyn Iesu. Dyma pryd y dechreuodd yr eglwys Gristnogol dyfu. Mae’r eglwys Gristnogol wedi dal i dyfu ar hyd y canrifoedd ar waethaf pob erledigaeth. Os yw’r twf yn araf yng Nghymru mae gwledydd eraill yn y byd, megis China, lle mae twf mawr yn nifer dilynwyr Iesu.
Daeth Ysbryd Duw i feddiannu ac arwain bywyd y dilynwyr cyntaf a phob crediniwr wedi hynny. Y Pentecost yw dydd pen-blwydd yr eglwys, dydd dathlu ei geni a dathlu hefyd fod Duw a Iesu Grist gyda ni, mewn ffurf arall anweledig ond effeithiol a grymus. Ni ellir dwyn yr Ysbryd Glân oddi ar y credinwyr. Heddiw, cofiwn neges Pedr sy’n ein herio ni i edrych eto ar Iesu Grist. Dyma her hefyd i ninnau rannu’r neges gydag eraill er i ni deimlo nad oes diddordeb ganddynt neu eu bod yn wrthwynebus i’r ffydd hyd yn oed. Arglwydd sy’n rhoi cyfle i un edifarhau a chredu sydd gennym, un sy’n barod i weini trugaredd a gras. Dyma ei addewid i’w ddilynwyr “Efe (sef y Tad ) a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi am byth. Ni all y byd ei dderbyn am nad yw y byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef. Yr ydych chwi yn ei adnabod oherwydd gyda chwi y mae yn aros.” Ioan 14:16-17. Dyhead pob Cristion yw bod eraill yn dod i brofi presenoldeb yr Ysbryd Glân yn eu bywyd, yn eu trawsnewid gan eu cymell a’u harwain i fyw mewn tangnefedd gyda Duw a gyda’i gilydd. Daeth hyn yn brofiad i’r credinwyr cynnar oherwydd “Roedden nhw’n cyfarfod yno’n gyson i weddïo gyda’i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a’i frodyr, a nifer o wragedd.” Actau 1:14.
Y Parch. R. O. Roberts
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 04.06.23