Dydd Sul, 16 Gorffennaf 2023

Mynd i capal

Fyddech chi ddim yn disgwyl i weinidog yr Efengyl ddeud hyn; ond wir i chi, dwi am fynd i’r capel yn llai aml. Ond rhag i chi feddwl yn rhy ddrwg ohonof, gwell egluro bod ‘mynd i capal’ dros y blynyddoedd wedi golygu ymysg pethau eraill, nôl llyfrau, defnyddio’r llungopïwr, gosod byrddau, symud cadeiriau, hwylio stafell, cynnau’r gwres, diffodd golau ac agor a chloi drysau. Bydd llai o alw i wneud y pethau hyn wedi i mi, os byw ac iach, ymddeol ddiwedd Awst. Fydda i ddim yn aros gartra ar y Sul ond yn dal i ‘fynd i capal’, ac os Duw a’i myn yn dal i fynd i bregethu.

‘Mynd i capal’ ddyweda’ i a miloedd o bobl eraill am yr hyn a wnawn bob Sul. Ond hen ymadrodd sâl ydi o mewn gwirionedd gan nad ydi o’n deud dim am bwrpas na gwerth y mynd hwnnw. Mi all hyd yn oed awgrymu’r arferiad gwag o fynd i gapel, a dim mwy na hynny. A buan iawn y try’r arferiad gwag o ‘fynd i capal’ yn arferiad o ‘beidio â mynd’.

Gwell gan rai sôn am ‘fynd i’r oedfa’ gan roi’r pwyslais nid ar y capel ond ar yr hyn sy’n digwydd ynddo. Gwn fod rhai’n dweud hynny er mwyn gwahaniaethu rhwng yr oedfa a’r Ysgol Sul a’r cyfarfod gweddi. Ond er na fydda i’n ei ddefnyddio, dwi’n hoff o’r ymadrodd gan mai’r hyn a wnawn mewn oedfa yw ‘cadw oed’. Cadw oed a wna cariadon wrth gadw eu haddewid i gyfarfod mewn lle ac ar amser penodol. Ac onid cadw oed â Duw a wnawn wrth fynd i oedfa i’w addoli gydag eraill? Neu tybed oes rhai ohonoch yn dal i sôn am ‘fynd i’r moddion’ neu ‘fynd i foddion gras’? Dyna ffordd brydferth arall o ddisgrifio’r hyn a wnawn o Sul i Sul. Nid mynd yn ddifeddwl trwy ddrws capel, ond gwneud rhywbeth sy’n amlwg yn dod â chymorth a bendith. Moddion gras – cyfryngau gras neu ffisig gras Duw – i rai gwael ydi’r Gair a ddarllenir ac a bregethir, a’r weddi a’r emyn a phopeth arall sy’n rhan o addoliad eglwys.

Ac o wrando ar Ganiadaeth y Cysegr y Sul diwethaf fe’m hatgoffwyd o’r arferiad ymhlith llawer o’r hen Ymneilltuwyr – yn y De yn fwyaf arbennig – i gyfeirio nid at y ‘capel’ ond at y ‘tŷ cwrdd’. Dwi ddim yn awgrymu y dylem fabwysiadu’r enw, ond mi fyddai’n dda i ni feddwl o’r newydd am y capel a’r oedfa fel lle i gyfarfod â Duw ac â’i bobl trwy’r addoli sy’n digwydd ynddo.

Y Parch. John Pritchard

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 16.07.23

Comments are closed.