Dydd Sul, 18 Mawrth 2012

Bore da a chroeso i’r oedfaon!  Tybed faint ’dan ni’n ei wybod am Griffith Jones, Llanddowror? I mi, mae Griffith Jones yr un mor bwysig â Williams Pantycelyn a Daniel Rowland a Howell Harris; cewri’r diwygiad yng Nghymru o 1735 ymlaen!  Mae hyn yn dipyn o gyfaddefiad i mi, ond does ’na ddim llawer yn cael dod i’r un cwmni â Williams gennyf!

Ond mae gan Griffith Jones le arbennig oherwydd y gwaith arloesol a gyflawnodd trwy nerth Duw yn sefydlu’r Ysgolion Cylchynol trwy Gymru i ddysgu’r werin anllythrennog sut i ddarllen; a darllen Cymraeg, a darllen Cymraeg er mwyn gallu darllen y Beibl, a darllen y Beibl Cymraeg er mwyn iddynt ddod i adnabod Duw a’i iachawdwriaeth yng Nghrist!

Yr oedd ar dân, a hynny cyn berw’r diwygiad. Cyn i’r tyrfaoedd dyrru i wrando ar Rowlands yn Llangeitho ac i’r miloedd ddechrau gorfoleddu wrth ganu emynau Williams, roedd Griffith Jones wedi llafurio’n dawel am oes yn hyfforddi athrawon i ddysgu gwyddor a llythrennedd i blant ac oedolion!  Ganrif bron cyn Thomas Charles, fe fyddai Griffith Jones wedi gosod y cynsail gogoneddus i’r ymateb ysbrydol a oedd i ddilyn – cael pobl i ddarllen eu Beiblau!

’Chafodd o ddim llawer o help gan y Cymry yn ei ddydd.  Nawdd gan Saeson a gafodd. Saeson goleuedig yn rhoi arian i’w alluogi i dalu am lafur y nifer gynyddol o athrawon teithiol oedd eu hangen i gynnal yr Ysgolion.  Ysgrifennodd at y cylch o bobl yn Lloegr, a rhai Saeson yng Nghymru i ffurfio ‘Cylch Cyfathrebu’.  Byddai cyfarfod wyneb yn wyneb wedi bod yn amhosibl yr adeg hynny ond dyma mae’n ei ddweud amdanynt:  “…however distant their place of abode may be, that they might by their correspondence assist and unite their endeavours to carry on this work for God’s Honour, the growing success of the Dear Redeemer’s kingdom of Grace in the world, and the saving of souls.”

Llwyddodd yn rhyfeddol i sefydlu’r ‘cylch’ yma o gefnogwyr i’r gwaith – cylch a fyddai’n gweddïo ac yn cyfrannu arian tuag at y dasg o ddysgu’r werin a lledaeniad teyrnas gras.  Pwy sy’n cefnogi’r gwaith arloesol, Beibl-ganolog a Christ-ganolog yng Nghymru heddiw?  Ydan ni’n gwneud digon?  Hwyrach mai o lefydd annisgwyl y daw cefnogaeth i’r gwaith hwn eto yn ein cyfnod ni.  Diolchwn i Dduw am y cylchoedd gweddi a’r unigolion sy’n ein cefnogi ni yma yn y Fro mewn gair a gweithred – a gwnawn ninnau yr un modd dros eraill sydd â baich gwirioneddol dros dwf teyrnas Gras ein Hanwylyd, dros y gwaith o ennill eneidiau, oni ddelo!

Heddiw, nid oes angen dysgu darllen, ond y mae gwir angen annog ein gilydd i ddarllen y Beibl. Cylchoedd o ddarllenwyr – dwy neu dair yn cyd-gyfarfod i ddarllen pennod dros baned – dau neu dri yn darllen hefo’i gilydd cyn gwylio’r gêm –  beth am i ninnau hefyd, fel Griffith Jones, osod cynsail o adnabod ein Beiblau ac adnabod y Gair i’r gamp lawn o ennill eneidiau?!

Llais Bro Aled 18.03.12(PDF)

Llais Bro Aled 18.03.12(Word)

Comments are closed.