Cornel Weddi

MAI 19
Cyflwynwn oedfaon y Sul yn yr ofalaeth heddiw gan gofio’n arbennig am y Cristnogion hynny sydd yn unig a heb y fendith o gael cwmni Cristnogion eraill yn eu heglwysi. Gweddïwn dros Sasiwn y Plant yn Groes pnawn ‘ma.

MAI 20
Ar ddechrau wythnos arall, diolchwn am fendithion tymhorol daionus Duw. Diolch am y fraint o gael profi a mwynhau ei greadigaeth. Boed hyn yn help ac yn ysgogiad i ni dreulio amser yn diolch am ei ddaioni grasol i ni.

MAI 21
Beth am dreulio amser yn gweddïo dros y sawl sydd mewn gwaeledd, yn unig neu yn mynd drwy gyfnod anodd ar hyn o bryd? Gweddïwn y bydd Duw yn ein defnyddio i fod yn gysur a chwmni iddynt.

MAI 22
Gweddïwn dros y grwpiau Adnabod heno a thros unigolion yn ein hardal sydd mewn gwaeledd neu angen ar hyn o bryd.

MAI 23
Gweddïwn dros Astudiaeth Feiblaidd Llannefydd heno a thros y paratoi. Yn dilyn ymweliad Hywel Meredydd i Oedfa’r Fro yn ddiweddar, gweddïwn dros waith gwerthfawr Tearfund ledled y byd.

MAI 24
Gweddïwn dros y gwaith Cristnogol sy’n mynd ymlaen yng Nghymru e.e. Coleg y Bala, Undebau Cristnogol yn y colegau, Dorcas a Bara, gan enwi ond ychydig. Gweddïwn y bydd Duw yn gwarchod a chynnal y tystiolaethau hyn.

MAI 25
Diolchwn i Dduw am Ei gariad, Ei ofal, Ei ras a’i fendithion i ni. Gweddïwn y byddwn yn ymateb â chalon ddiolchgar i’r hyn yr ydym yn ei brofi.

MAI 26
Wrth i ni ymwneud ag eraill o’n cwmpas, gweddïwn y bydd geiriau ein genau a myfyrdod ein calonnau yn dderbyniol a chymeradwy gan Dduw. Gweddïwn am fendith ar Rhun Murphy wrth iddo bregethu yn Oedfa’r Fro heno.