By mair, on September 29th, 2023% Rwyt ti’n cyfrif!
Mae llawer o bobl yn tybio nad ydi Duw yn malio dim amdanon ni. Ond darlun gwahanol iawn a gawn o Dduw yn y Beibl ac yn nhystiolaeth ei ddilynwyr. Dweud bod Duw yn malio wnaeth Iesu Grist, dweud ein bod yn werthfawr yn ei olwg. “Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i’r ddaear heb eich Tad. Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi’n werth mwy na llawer o adar y to.” “Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.” (Mathew 10:29-32)
Er mai aderyn digon cyffredin a dinod ydi aderyn y to, mae’r Arglwydd Iesu yn datgan fod gan Dduw ddiddordeb ynddo. Ond rydym ni fel pobl yn werth llawer mwy gan yr Arglwydd. Ffordd yr Arglwydd Iesu o bwysleisio hyn ydi cyfeirio at y ffaith fod ein Tad nefol wedi rhifo’r gwallt sydd ar ein pen. Mae Duw’r nefoedd am i ni wybod bod ei ofal amdanom y tu hwnt i be’ y gallwn ei fesur. Mae’n dweud ei fod eisiau ein harddel fel ei bobl. Cawn ef yn Iesu Grist yn un sy’n dod i’r byd i chwilio am y rhai sydd wedi crwydro ymhell oddi wrtho. “Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.” (Luc 19:10) Mae ei allu a’i nerth mawr wedi ei amlygu yn ei weithredoedd yr adroddir amdanynt yn y Beibl ac yn nhystiolaeth y rhai sydd wedi ei arddel dros y canrifoedd. Duw sy’n tywallt bendithion arnom ydy o, bendithion daearol a bendithion ysbrydol. Fel hyn mae’r Salmydd yn dweud, “Da yw moliannu’r Arglwydd, a chanu mawl i’th enw di, y Goruchaf, a chyhoeddi dy gariad yn y bore a’th ffyddlondeb bob nos…” (Salm 92:1). “Dewch i mewn i’w byrth a diolch ac i’w gynteddau a mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw. Oherwydd da yw’r Arglwydd; y mae ei gariad hyd byth, a’i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.” (Salm 100:4-5)
A hithau’n fis yr ŵyl ddiolchgarwch draddodiadol gadewch i ni ystyried bendithion Duw i ni a dathlu ei ofal mawr drosom.
Y Parch. R. O. Roberts
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 01.10.23
By mair, on September 14th, 2023% 20 mya
Maen nhw’n deud y bydda i funud yn hwyr yn yr oedfa fore Sul (heddiw, os darllenwch chi hwn ddydd Sul, Medi 17). Pwy sy’n deud? Y Llywodraeth, yn y daflen ‘Byddwch yn barod am 20mya’ a anfonwyd atom i’n hatgoffa am y newid i’r ddeddf a ddaw i rym heddiw. ‘Bydd siwrneiau oddeutu munud yn hirach’ yn ôl y daflen. Ond waeth i mi heb â smalio mod i’n deall hynny! Dyw’r daflen ddim yn manylu ynghylch hyd siwrneiau; dim ond cyfeirio at y ‘Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022’. A do, mi geisiais ddarllen hwnnw! Hyd y gwelaf, honnir y bydd pob milltir o daith ar lonydd 20 milltir yr awr yn cymryd oddeutu 46 eiliad yn fwy nag ar lonydd 30 milltir yr awr. Dwi ddim yn ddigon o fathemategydd i fedru deud faint hwy o amser gymer y daith, dyweder, o Lanberis i Gaerdydd. Tipyn mwy na munud, yn sicr!
Ydi, mae’r ddeddf yn newid. Wnaiff hynny fawr o wahaniaeth yma yn Llanberis gan fod prysurdeb y lôn yn golygu na ellir mynd lawer cyflymach na 20 milltir yr awr p’run bynnag. Ond bydd yn stori wahanol lawr y lôn yn Nant Peris, sydd fel arfer yn dipyn tawelach. Ond anodd neu beidio, rhaid cydymffurfio â’r ddeddf newydd. A chwarae teg i’r Llywodraeth, mi ddylai pawb fod yn ymwybodol ohoni erbyn hyn.
Newid ac addasu ydi hanes sawl deddf. Ond yr un ddeddf nad yw’n newid o oes i oes ydi deddf Duw ar ein cyfer. Wrth gwrs, nid oes angen newid honno am ei bod eisoes yn berffaith. Mae hi i’w gweld yn y Deg Gorchymyn (yn Exodus 20), ac mae wedi ei chrynhoi ymhellach gan Iesu Grist yn y ddau orchymyn: ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl … Câr dy gymydog fel ti dy hun’ (Mathew 22:37-38). Yr un yw’r gyfraith. Nid yw gofynion Duw yn newid. Beth bynnag y newidiadau i’r gymdeithas yr ydym yn rhan ohoni a’r amgylchiadau allanol a wynebwn, yr un yw disgwyliadau Duw: ein bod yn ei garu Ef â’r cyfan sydd ynom ac yn caru eraill yr un modd. Ac o wybod mor anodd yw gwneud hynny ac mor aml y syrthiwn yn fyr o’r nod, mae’n dda cofio mai cyfraith gras ydi cyfraith Dduw gan mai ei bwriad ydi dangos i ni’r union fethiannau hynny er mwyn i ni geisio’r maddeuant a’r cymod a ddarparwyd ar ein cyfer trwy Iesu Grist. Gyrrwch yn ofalus.
Y Parch. John Pritchard
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 17.09.23
By mair, on August 31st, 2023% Mentro o’r Newydd
Pa mor barod ydach chi i ddysgu rhywbeth newydd? Mae llawer iawn yn dweud eu bod yn rhy hen i ddysgu rhywbeth newydd, boed yn iaith neu grefft neu feistroli rhyw declyn cyfrifiadurol. Ar y cyfan, rydym yn araf iawn i newid ein ffyrdd am ein bod yn ofni’r newydd a’r newid. Ar adegau, mae rhai ohonom yn ceisio dysgu ein hunain yn hytrach na chydnabod ein hangen a gofyn am help un sy’n gwybod. Mae agwedd fel hyn yn arwain at golli allan ar brofiadau newydd fyddai’n cyfoethogi ac yn hwyluso bywyd. Gall hyn fod yn wir gyda’n bywyd ysbrydol hefyd. Gallwn golli cyfle i brofi bendithion adnabod y Gwaredwr a phrofi heddwch a dedwyddwch y bywyd Cristnogol trwy wrthod cymryd ein dysgu.
Mae plant, ar y llaw arall, yn sugno gwybodaeth newydd yn rhwydd ac yn gallu addasu yn llawer haws. Mae plentyn yn fwy parod i ofyn am help pan fo angen. Mae Iesu Grist yn ein gwahodd yn y Gair i gymryd agwedd plentyn. “Galwodd (Iesu) blentyn bach ato, a’i osod yn y canol o’u blaenau, ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o’r rhai mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.”(Mathew 18:2-3) Mae’n ein galw ato i gael ein dysgu a’n trawsnewid ganddo fel ein bod yn darganfod ffordd sy’n rhoi tangnefedd a gorffwys i ni. “Dewch ata i, bawb sy’n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi.” (Mathew 11:28) Galw arnom i adael iddo ef ein hyfforddi a’n newid a wna’r Arglwydd.
Gwelwn lawer eisiau bod yn heini ond eto ddim yn barod i ildio i ddisgyblaeth hyfforddwr ymarfer corff. Does dim gorffwysfa ysbrydol i ni heb i ni ildio i gael ein dysgu gan Iesu Grist am ffordd ffydd. Does dim gorffwysfa heb wrando ac ymateb iddo. Nid beichio bywyd a wna’r Arglwydd Iesu ond gwneud bywyd yn haws ac yn llawnach. “Dewch gyda mi o dan fy iau, er mwyn i chi ddysgu gen i. Dw i’n addfwyn ac yn ostyngedig, a chewch chi orffwys. Mae fy iau i yn gyfforddus a dw i ddim yn gosod beichiau trwm ar bobl.” (Mathew 11:29-30) Dyma dymor newydd a chyfle i fentro o’r newydd i ddyfnhau ein hadnabyddiaeth o Iesu Grist a phrofi mwy o fendithion ei gwmni.
Y Parch. R. O. Roberts
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 03.09.23
By mair, on July 13th, 2023% Mynd i capal
Fyddech chi ddim yn disgwyl i weinidog yr Efengyl ddeud hyn; ond wir i chi, dwi am fynd i’r capel yn llai aml. Ond rhag i chi feddwl yn rhy ddrwg ohonof, gwell egluro bod ‘mynd i capal’ dros y blynyddoedd wedi golygu ymysg pethau eraill, nôl llyfrau, defnyddio’r llungopïwr, gosod byrddau, symud cadeiriau, hwylio stafell, cynnau’r gwres, diffodd golau ac agor a chloi drysau. Bydd llai o alw i wneud y pethau hyn wedi i mi, os byw ac iach, ymddeol ddiwedd Awst. Fydda i ddim yn aros gartra ar y Sul ond yn dal i ‘fynd i capal’, ac os Duw a’i myn yn dal i fynd i bregethu.
‘Mynd i capal’ ddyweda’ i a miloedd o bobl eraill am yr hyn a wnawn bob Sul. Ond hen ymadrodd sâl ydi o mewn gwirionedd gan nad ydi o’n deud dim am bwrpas na gwerth y mynd hwnnw. Mi all hyd yn oed awgrymu’r arferiad gwag o fynd i gapel, a dim mwy na hynny. A buan iawn y try’r arferiad gwag o ‘fynd i capal’ yn arferiad o ‘beidio â mynd’.
Gwell gan rai sôn am ‘fynd i’r oedfa’ gan roi’r pwyslais nid ar y capel ond ar yr hyn sy’n digwydd ynddo. Gwn fod rhai’n dweud hynny er mwyn gwahaniaethu rhwng yr oedfa a’r Ysgol Sul a’r cyfarfod gweddi. Ond er na fydda i’n ei ddefnyddio, dwi’n hoff o’r ymadrodd gan mai’r hyn a wnawn mewn oedfa yw ‘cadw oed’. Cadw oed a wna cariadon wrth gadw eu haddewid i gyfarfod mewn lle ac ar amser penodol. Ac onid cadw oed â Duw a wnawn wrth fynd i oedfa i’w addoli gydag eraill? Neu tybed oes rhai ohonoch yn dal i sôn am ‘fynd i’r moddion’ neu ‘fynd i foddion gras’? Dyna ffordd brydferth arall o ddisgrifio’r hyn a wnawn o Sul i Sul. Nid mynd yn ddifeddwl trwy ddrws capel, ond gwneud rhywbeth sy’n amlwg yn dod â chymorth a bendith. Moddion gras – cyfryngau gras neu ffisig gras Duw – i rai gwael ydi’r Gair a ddarllenir ac a bregethir, a’r weddi a’r emyn a phopeth arall sy’n rhan o addoliad eglwys.
Ac o wrando ar Ganiadaeth y Cysegr y Sul diwethaf fe’m hatgoffwyd o’r arferiad ymhlith llawer o’r hen Ymneilltuwyr – yn y De yn fwyaf arbennig – i gyfeirio nid at y ‘capel’ ond at y ‘tŷ cwrdd’. Dwi ddim yn awgrymu y dylem fabwysiadu’r enw, ond mi fyddai’n dda i ni feddwl o’r newydd am y capel a’r oedfa fel lle i gyfarfod â Duw ac â’i bobl trwy’r addoli sy’n digwydd ynddo.
Y Parch. John Pritchard
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 16.07.23
By mair, on June 29th, 2023% Llwyddiant
Rydym wedi arfer â chanu clodydd y rhai sydd wedi llwyddo mewn gwahanol feysydd cyhoeddus, boed yn eisteddfod neu chwaraeon neu ym myd addysg, a da o beth yw gwerthfawrogi a chydlawenhau yn llwyddiant pobl eraill. Ond gadewch i ni ystyried am funud un a dderbyniodd y ganmoliaeth uchaf y gellir ei chael ac yntau yn ymddangos fel pe na bai wedi cyflawni dim byd.
Fe gofiwch i’r Arglwydd Iesu Grist ddod at Ioan Fedyddiwr i gael ei fedyddio yn afon yr Iorddonen. Bryd hynny y bu i Dduw gyhoeddi amdano “Ti yw fy mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu” Luc 3:22.
Ond beth oedd Iesu wedi’i wneud i dderbyn y fath ganmoliaeth gan Dduw? Nid oedd hyd yma wedi cyflawni’r un wyrth. Nid oedd wedi pregethu yr un bregeth. Nid oedd wedi iacháu yr un gwahanglwyf. Nid oedd wedi galw rhai i fod yn ddisgyblion. Prin fod neb y tu allan i Nasareth yn ei adnabod. Roedd wedi byw yn dawel yn Nasareth am dri deg mlynedd. Gwyddom yn ystod y cyfnod hwnnw fod gan Dduw ei lygaid arno a gwyddom iddo “gynyddu mewn doethineb a maintioli, a ffafr gyda Duw a’r holl bobl.” Luc 2:52.
Gwelwn felly mai’r hyn sy’n digwydd yn y dirgel sy’n cyfri gyda Duw. Yn nhawelwch Nasareth treuliodd Iesu amser gyda’i Dad nefol. Ei berthynas â’i Dad nefol oedd yn mowldio ei fywyd. Hyn sy’n cyfri i’r Arglwydd heddiw hefyd, sef yr hyn sydd yn ein calon. Cofiwn mai “Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae’r Arglwydd yn gweld beth sydd yn y galon” 1 Samuel 16:7. Mae’n chwilio am bobl sydd â’u calon yn eiddo iddo fo. Ydyn ni wedi llwyddo i roi ein calon iddo?
Yn nhawelwch gwlad Bro Aled, fel yn Nasareth, mae cyfle i feithrin perthynas â Duw y nefoedd. Gallwn dyfu mewn adnabyddiaeth o Dduw yn Iesu Grist.
Wrth i ni wynebu cyfnod newydd gadewch i ni sicrhau ein bod yn gwneud amser i dyfu yn ein hadnabydiaeth o Dduw trwy ddarllen ei Air yn y Beibl, trwy weddïo a chyd addoli. Yna gall yr Arglwydd wneud defnydd ohonom.
Y Parch. R. O. Roberts
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 02.07.23
By mair, on June 15th, 2023% Ping!
Ping! Neges arall ar WhatsApp y teulu. Chi sy’n anghyfarwydd â thechnoleg ffonau clyfar, dychmygwch rywun yn canu cloch y drws bob dau funud efo telegram a bydd gennych syniad go lew be’ ydi WhatsApp – a’i ‘bing’!) Fel arfer, rhannu gwybodaeth am y teulu ar wasgar, gwneud trefniadau i gyfarfod â’i gilydd, neu drafod y diweddaraf am bêl droed a wna’r plant trwyddo. Mae’n gyfrwng hwylus, er cyfaddef mai tipyn o niwsans ydi’r ping sy’n fy nhynnu oddi wrth dasg bwysig i weld be’ gafodd Dafydd i swper!
Ond nos Sadwrn diwethaf, nid pêl droed na gwleidyddiaeth na hyd yn oed luniau’r wyrion oedd yn gyfrifol am y pingio. Un gair yn unig oedd cynnwys y neges gyntaf o Gaernarfon: ‘Glaw!’ Dim ond y defnyn lleiaf; ond roedd yn ddigon i sgwennu adra yn ei gylch. A ping ‘Dim glaw yma’ a phing ‘Dim glaw eto’ fu hi am funudau, cyn i’r negeseuon gyrraedd o Gaerdydd – ‘Wedi glawio pnawn ma’, ac o Lerpwl – ‘Storm yma!’
Ddaeth y glaw ddim i Lanberis nos Sadwrn, a bu raid aros tan oriau mân fore Llun am y gawod gyntaf gwerth sôn amdani. Nid bod honno’n drom iawn chwaith, a melys moes mwy yw hi yma o hyd ganol yr wythnos. Ond dwi’n deall iddi fod yn storm ym Mro Aled – neu o leiaf yn Llannefydd – nos Sadwrn a dydd Sul. Ac er ein cwyno mynych, roedd pawb yn falch o weld hynny o law a gawsom wedi’r wythnosau o dywydd sych, crasboeth.
Bu hen ddisgwyl am law yn Israel yn nyddiau Elias. Wedi dwy flynedd a mwy o sychder, rhoddodd Duw ar wybod i’r proffwyd bod glaw i ddod, a rhybuddiodd Elias y brenin Ahab i ffoi rhag i’r glaw ei rwystro! Oherwydd addewid Duw, credai Elias y deuai glaw trwm er na welai ond cwmwl bychan (1 Brenhinoedd 18:41-46). Mae hynny’n f’atgoffa o’r stori am y wraig a aeth i gyfarfod gweddi i alw am law mewn cyfnod o sychder mawr gan fynd â’i hymbarél efo hi! Y fath ffydd! Tybed faint o weddïo am law a wnaed dros yr wythnosau diwethaf? Ac yn y sychder ysbrydol a’n blinodd ers mwy o lawer na’r ddwy flynedd sych a brofodd Elias a’i bobl, gweddïwn y bydd yr Ysbryd Glân yn glawio arnom ei fendith gan weddnewid ein gwlad trwy ein bywhau ni fel pobl Dduw a dwyn llaweroedd at yr Arglwydd Iesu Grist. Diolchwn am y dafnau lleiaf o fendith Duw, gan ddyheu am fwy a deisyf bob dydd ar iddo droi’r dafnau mân yn gafodydd gwlithog ac adnewyddol.
Y Parch. John Pritchard
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 18.06.23
By mair, on June 1st, 2023% Pen-blwydd Hapus!
Pysgotwr cyffredin oedd Pedr, gŵr medrus am hwylio cychod, trwsio rhwydau a dal pysgod. Nid oedd arwyddion ei fod yn ŵr cyhoeddus, ond dan ddylanwad Ysbryd Duw ar ddydd y Pentecost, fel y gwelwn yn Actau 2, cododd yng nghanol Jerwsalem a rhoi neges rymus i dyrfa fawr. Dyma’r ddinas oedd yn llawn o wrthwynebwyr i Iesu Grist. Heriodd Pedr y rhai alwodd am groeshoelio Iesu i edrych eto ar eu gweithred gan ei fod o’n sefyll fel tyst i’r ffaith fod yr Iesu a groeshoeliwyd yn fyw. Eglurodd fod gwrthod Iesu yn gyfystyr â gwrthod Duw ei hun. Canlyniad ei safiad oedd bod tair mil o bobl wedi newid eu meddwl a throi i ddilyn Iesu. Dyma pryd y dechreuodd yr eglwys Gristnogol dyfu. Mae’r eglwys Gristnogol wedi dal i dyfu ar hyd y canrifoedd ar waethaf pob erledigaeth. Os yw’r twf yn araf yng Nghymru mae gwledydd eraill yn y byd, megis China, lle mae twf mawr yn nifer dilynwyr Iesu.
Daeth Ysbryd Duw i feddiannu ac arwain bywyd y dilynwyr cyntaf a phob crediniwr wedi hynny. Y Pentecost yw dydd pen-blwydd yr eglwys, dydd dathlu ei geni a dathlu hefyd fod Duw a Iesu Grist gyda ni, mewn ffurf arall anweledig ond effeithiol a grymus. Ni ellir dwyn yr Ysbryd Glân oddi ar y credinwyr. Heddiw, cofiwn neges Pedr sy’n ein herio ni i edrych eto ar Iesu Grist. Dyma her hefyd i ninnau rannu’r neges gydag eraill er i ni deimlo nad oes diddordeb ganddynt neu eu bod yn wrthwynebus i’r ffydd hyd yn oed. Arglwydd sy’n rhoi cyfle i un edifarhau a chredu sydd gennym, un sy’n barod i weini trugaredd a gras. Dyma ei addewid i’w ddilynwyr “Efe (sef y Tad ) a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi am byth. Ni all y byd ei dderbyn am nad yw y byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef. Yr ydych chwi yn ei adnabod oherwydd gyda chwi y mae yn aros.” Ioan 14:16-17. Dyhead pob Cristion yw bod eraill yn dod i brofi presenoldeb yr Ysbryd Glân yn eu bywyd, yn eu trawsnewid gan eu cymell a’u harwain i fyw mewn tangnefedd gyda Duw a gyda’i gilydd. Daeth hyn yn brofiad i’r credinwyr cynnar oherwydd “Roedden nhw’n cyfarfod yno’n gyson i weddïo gyda’i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a’i frodyr, a nifer o wragedd.” Actau 1:14.
Y Parch. R. O. Roberts
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 04.06.23
By mair, on May 18th, 2023% Y deugeinfed dydd
Dydd Iau diwethaf (neu heno, os cawsoch y rhifyn hwn trwy e-bost) oedd y deugeinfed diwrnod wedi Sul y Pasg: dydd cofio esgyniad yr Arglwydd Iesu Grist. Am ddeugain niwrnod wedi iddo atgyfodi, ymddangosodd Iesu i’w ddisgyblion cyn diflannu wedyn: dod a mynd o’u golwg cyn eu gadael yn derfynol ar y dydd a alwn ni’n ‘Ddydd Iau Dyrchafael’. Mae Luc yn cofnodi ei ymadawiad mewn un frawddeg gryno: ‘Wedi iddo ddweud hyn, a hwythau’n edrych, fe’i dyrchafwyd, a chipiodd cwmwl ef o’u golwg’ (Actau 1:9). Am olygfa ryfeddol! Iesu Grist yn cael ei godi oddi ar y ddaear ac yn esgyn yn uwch ac uwch nes bod cwmwl rywsut yn lapio o’i amgylch a’i gymryd o olwg ei ddisgyblion. Parodd yr olygfa drafferth i lawer o bobl. Ei godi’n llythrennol oddi ar y ddaear? Oes disgwyl i ni gredu bod hyn wedi digwydd? Oes, wrth gwrs. Mae’n rhan o hanes Iesu ac yn rhan o’r Efengyl. Nid yw ronyn mwy anhygoel na geni ac atgyfodiad Iesu. Os daeth Mab Duw o’r nefoedd i’r ddaear trwy ei eni ym Methlehem, ac os daeth Iesu o farwolaeth i fywyd trwy ei atgyfodiad, pam na all fynd o’r ddaear i’r nefoedd trwy ei esgyniad? Mae ein cyndynrwydd i gredu ac i sôn am y digwyddiad yn rhyfedd ac annisgwyl o gofio bod y disgyblion yn llygad-dystion iddo.
Yn ôl Luc, un peth o bwys y mae’r Esgyniad yn ei ddangos yw bod gwaith Crist yn para. Ysgrifennodd Luc ddau lyfr: Efengyl Luc a Llyfr yr Actau. Ac meddai, ‘Ysgrifennais y llyfr cyntaf … am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneud a’u dysgu hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny’ (Actau 1:1). Yn Efengyl Luc, ceir hanes Iesu: ei eni, ei fywyd a’i weinidogaeth a’i ddysgeidiaeth, ei farwolaeth a’i atgyfodiad a’i esgyniad. Ond dechrau’r stori yw hynny: mae’r stori’n parhau yn Llyfr yr Actau gan fod Iesu, wedi iddo esgyn i’r nefoedd, yn parhau ei waith trwy ei ddisgyblion sy’n cyflawni eu gweinidogaeth yn nerth ei Ysbryd Glân.
Ar un wedd, pobl a adawyd yn amddifad oedd y disgyblion, ond roedd Iesu am barhau ei waith trwyddynt. Wedi bod yn yr Oedfa Sefydlu ym Mangor y Sadwrn diwethaf, feiddiwn ni awgrymu y gall rhai ohonoch chithau deimlo’n amddifad heddiw wedi blynyddoedd o weinidogaeth ffyddlon Rhodri a’i ragflaenwyr? Mae’r Dyrchafael yn eich atgoffa bod gwaith yr Arglwydd Iesu’n parhau, a bod yr Ysbryd a fu’n arwain ac yn cynnal yr apostolion yn abl i ddal i’ch arwain a’ch cynnal chithau yn y gwaith hwnnw.
Y Parch. John Pritchard
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 21.05.23
By mair, on May 4th, 2023% Cyfrifoldeb pwy?
Tydi pobl yn gyffredinol ddim yn hoff iawn o gymryd cyfrifoldeb am ryw bethau. Mae’n haws gweld bai ar rywun arall am beidio â chyflawni rhyw ddyletswydd. Ond y gwir ydi fod gan bawb gyfrifoldebau yn y byd hwn; cyfrifoldeb dros y byd a roddwyd yn ein gofal, cyfrifoldeb at ein gilydd fel pobl, cyfrifoldeb am y math o gymdeithas a gwlad yr ydym yn byw ynddi. Mae rhai cyfrifoldebau yn gyffredin i bob un ohonom fel bodau dynol ac mae cyfrifoldebau penodol yn cael eu rhoi i ni fel unigolion. Daw rhai yn rhinwedd ein swyddi drwy’r doniau a’r bendithion a roddwyd i ni, ond cuddio oddi wrth eu cyfrifoldeb a wnawn yn aml, fel y mae hanes Adda ac Efa yn ei ddysgu i ni. Bu iddynt anwybyddu gorchymyn Duw, a throi i feio ei gilydd am y canlyniadau, (gweler Genesis 3:1-13). Ymroi i wasanaethu wnaeth Iesu Grist pan ddaeth i’r byd. Darllenwn yn Luc 4 fel y cafodd ei demtio i gymryd y ffordd hawdd ond dewisodd lwybr gwasanaeth a gafael yn y cyfrifoldeb o fod yn waredwr i’r byd. Yna galwodd ar ei ddisgyblion i fod yn dystion iddo ac i’r gwaith achubol a gyflawnodd ar y groes, (gweler Luc 24:44-49). Wedi’r atgyfodiad, gwnaethant hynny gan gyhoeddi ffordd Iesu Grist, a hynny ar waethaf yr erledigaeth a ddaeth i’w rhan. Galwad oedd ar i bobl weld fod ail-ddechrau gyda Duw yn bosibl a’u hannog i ysgwyddo eu cyfrifoldebau fel dinasyddion ei deyrnas. Cofiwn ei eiriau olaf i’w ddisgyblion cyn esgyn i’r nef, “Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi’i ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.” (Mathew 28:18-20)
Mae Duw yn galw ar bob un ohonom drwy’r byd i’w garu o a charu ein gilydd, a gweithio i sicrhau lles bob un o’r ddynolryw. Rhoddwyd cyfrifoldeb arnom i fod yn dystion i Iesu Grist. Ydym ni yn bobl sy’n gwneud gwahaniaeth er gwell yn yr eglwys neu yn y capel, yn ein bro a thros ein cyd-ddyn ledled y byd?
Y Parch. R. O. Roberts
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 07.05.23
By mair, on April 20th, 2023% Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân fyddo gyda chwi oll!
Tybed sawl gwaith ydych chi wedi clywed neu ddweud yr ymadrodd enwog hwn? Ond fel cymaint o eiriau cyfarwydd eraill, ydych chi wedi meddwl o ddifrif am ystyr y Fendith?
Geiriau’r Apostol Paul ydynt ar ddiwedd ei Ail Lythyr at y Corinthiaid. Mae hi’n weddi eithriadol o addas wrth ffarwelio â chyd Gristnogion gan ei bod yn gofyn i’r Duw tragwyddol, sy’n Dad, Mab ac Ysbryd Glân, barhau i fendithio’i bobl mewn ffordd arbennig. Dyma grynodeb wych o’r hyn sy’n cael ei brofi gan y rhai sy’n ymddiried yng Nghrist.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist yw’r rhodd sy’n golygu fod y pechadur edifeiriol yn derbyn maddeuant a chymod â’r Duw y gwrthryfelodd yn ei erbyn. Disgleiriodd y gras hwnnw trwy fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu – y cyfan wedi digwydd er mwyn achub pobl nad oedd yn haeddu unrhyw ddaioni gan yr Arglwydd.
‘Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau’n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef.’ (2 Corinthiaid 8:9)
Wrth roi ein hunain i’r Arglwydd Iesu, cawn dderbyn cariad diderfyn ein Creawdwr, a thrwy fyfyrio’n gyson ar Air Duw, gallwn ryfeddu gyda’r emynydd Iago Trichrug:
Fe’n carodd cyn ein bod,
a’i briod Fab a roes,
yn ôl amodau hen y llw,
i farw ar y groes.
Ac yn olaf, cymdeithas yr Ysbryd Glân. Yr Ysbryd sy’n byw yn y Cristion gan ei uno mewn ffydd â’r Arglwydd Iesu a’i eni o’r newydd. Ond nid ymwelydd dros dro yw’r Ysbryd gan Ei fod yn parhau i weinidogaethu ynom a thrwom gan ein harwain a’n cymell i garu ac ufuddhau i Dduw. Golyga cymdeithas yr Ysbryd fod Duw ar waith ynom, ond hefyd bod uniad melys wedi’i greu gan yr Ysbryd rhwng Cristnogion a’i gilydd – rhai sydd wedi’u galw i fod yn blant i Dduw, ac yn frodyr a chwiorydd i’w gilydd.
Gan mai hwn yw fy myfyrdod olaf fel gweinidog Bro Aled, pa neges well wrth ffarwelio na geiriau’r Apostol Paul? Diolch o galon i chi am eich caredigrwydd tuag atom fel teulu, a’ch holl weddïau dros y blynyddoedd. Pan ysgrifennais fy myfyrdod cyntaf ar gyfer Llais Aled dechrau Hydref 2009, soniais am yr ychydig fisoedd (!) o’m blaen i ddod i adnabod pobl ac ardal newydd. Bryd hynny, fy ngobaith oedd y byddem yn dod i adnabod yr Arglwydd yn well gan annog ein gilydd i ddibynnu arno Ef. Bron i bedair mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach, ar drothwy’r bennod nesaf, yr un yw fy nyhead drosoch.
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 23.04.23
|
Llais Bro Aled Diweddaraf
|