Dydd Sul, 15 Ionawr 2023

Mae’n debyg bod nifer ohonoch bellach wedi clywed y newyddion fy mod wedi derbyn galwad i fod yn weinidog ar Gapel y Ffynnon, Bangor o fis Mai ymlaen. Byddaf hefyd yn cael cyfle hefyd i gydlynu Rhwydwaith Daniel Rowland sy’n gynllun hyfforddiant newydd ar y cyd â Choleg Diwinyddol Union, Pen-y-bont ar Ogwr. Fel y gallwch ddychmygu nid oedd yn benderfyniad hawdd i’w wneud, ond wedi cyfnod hir o weddïo rydym yn barod i ddibynnu ar arweiniad Duw i ni fel teulu, fel y byddwn yn ymddiried yn Ei ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol i Fro Aled hefyd. Diolch i chi i gyd am eich gweddïau a’ch cynhesrwydd tuag atom fel teulu, ac am eich holl gefnogaeth dros y blynyddoedd. Nid oes angen dweud na fyddwch fyth ymhell o’n gweddïau.

Yn aml gall sefyllfaoedd annisgwyl ein helpu i sylweddoli beth yr ydym yn dibynnu arnynt, a chawsom brofiad o hyn yn Llansannan wythnos cyn y Nadolig. Torrodd y cysylltiad trydan i’n rhan ni o’r pentref rhwng 3 a 9 yr hwyr, a bu’r oriau hynny o dywyllwch yn ddiddorol a dweud y lleiaf! Rhyfeddais mor frawychus o dywyll oedd Ffordd Gogor heb olau stryd, a bu’n dipyn o gur pen meddwl beth oedd yn bosib hefo llond llaw yn unig o ganhwyllau, a llond tŷ o declynnau amhosib eu defnyddio! Yn ystod y cyfnod heb drydan roeddwn yn gweld ei angen yn enfawr, ond wedi i’r cysylltiad gael ei adfer dychwelais i fywyd arferol heb feddwl rhyw lawer am y peth.

Ac mae yna berygl y gallwn ymddwyn mewn ffordd debyg yn ein perthynas â’r Arglwydd. Gallwn fod yn eiddgar yn gweddïo ac yn moli am gyfnodau, cyn tawelu a chilio wrth i fywyd ‘normal’ ddychwelyd. Ond yn wahanol i gyflenwad trydan, ni fydd yr Arglwydd fyth yn diflannu’n ddirybudd, oherwydd ‘nid yw Ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno’ (Salm 121:4). Ac i’r gwrthwyneb i gwmnïau sy’n elwa wrth gyflenwi egni i’r rhai sy’n talu’n ddrud amdano, mae’r Arglwydd Iesu yn darparu’r hyn sydd ei angen arnom fwyaf, ac wedi talu’r pris yn llawn ar y Groes. ‘Oherwydd y mae Crist eisoes, yn yr amser priodol, a ninnau’n ddiymadferth, wedi marw dros yr annuwiol.’  (Rhufeiniaid 5:6)

Yn y pen draw, nid oes gan y cwmni sy’n dod â thrydan i’ch tŷ lawer o ddiddordeb mewn perthynas bersonol. Os yw’r ymwneud masnachol rhyngoch yn gweithio heb ormod o gyfathrebu, gorau oll iddynt hwy! Ond nid felly y mae rhwng yr Arglwydd Dduw a ni. Trwy’r Arglwydd Iesu mae wedi’n ceisio er gwaethaf ein crwydro, a thrwy’r Efengyl mae’n ein galw ni oll ato heddiw i berthynas dragwyddol o ymddiried ynddo a mwynhau ei gariad a’i gwmni.

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 15.01.23

Dydd Sul, 1 Ionawr 2023

Fel cyfnod y Nadolig, mae blwyddyn newydd hefyd yn tueddu i ennyn teimladau tra gwahanol ymhlith pobl.  Gall fod yn arwydd o obaith a her gyffrous i rai, tra bydd eraill a glwyfwyd gan ddigwyddiadau 2022 yn troi tudalen y calendr newydd yn llawer llai brwdfrydig.

Yr hyn sy’n achosi cyffro neu bryder yw’r ffaith nad oes neb ohonom yn gwybod yn iawn beth sydd o’n blaenau.  Rhaid i hyd yn oed yr arbenigwyr praffaf ddelio gydag ansicrwydd parhaus a chydnabod nad yw’r ddynoliaeth yn medru rheoli popeth.  Ond nid oes rhaid i hyn ein parlysu.  Cofiwn fod nifer o ffigyrau amlwg y Beibl hefyd wedi wynebu anawsterau tebyg, a gallwn ddysgu o’u profiadau hwy.

Ystyriwch Ioan Fedyddiwr er enghraifft.  Dyma’r un a lanwyd â’r Ysbryd Glân yng nghroth ei fam, yr un a fedyddiodd ac a gyhoeddodd am Iesu: “Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd!” (Ioan 1:29)  Ond er ei weinidogaeth hynod yn paratoi ffordd yr Arglwydd, wynebodd yntau amheuon ac ansicrwydd.  Wrth gyfeirio pobl at Iesu, byddai’n galw arnynt i edifarhau am eu pechodau, ac roedd hynny’n cynnwys Herod Antipas, arweinydd Galilea.  O ganlyniad carcharwyd Ioan, ac o’r carchar anfonodd ei ddisgyblion at Iesu gan holi:  Ai Ef oedd yr un y bu cymaint o ddisgwyl amdano, neu oedd y gwir Feseia eto i ddod?

Byddai’n hawdd i ni fod yn feirniadol o ansicrwydd Ioan, ond nid felly’r ymatebodd Iesu.  Yn hytrach, atebodd Crist yn raslon trwy atgoffa Ioan o’r hyn a wnaeth:  “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi’i glywed a’i weld:  Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy’n dioddef o’r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae’r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd! (Mathew 11:4-5 Beibl.net)

Ar ddechrau blwyddyn newydd gyda’n gobeithion a’n hofnau yn gymysgedd ddryslyd, mae geiriau Iesu’n gyngor arbennig i ninnau hefyd.  Yng nghanol ein hansicrwydd, edrychwn ar bwy yw’r Arglwydd Iesu gan fyfyrio ar y darluniau a ddefnyddiodd i ddisgrifio’i hun:  Bugail Da, Goleuni’r Byd, yr Atgyfodiad a’r Bywyd. Ystyriwch yr hyn a gyflawnodd trwy Ei weinidogaeth, Ei farw aberthol ar y Groes a’i atgyfodiad gogoneddus. Oes yna rywun rhagorach y gallwn ymddiried ein hunain iddynt, sydd wedi talu’n dyled drosom, ac sy’n addo bod gyda ni bob amser? (Mathew 28:20)

Ble gwelir cariad fel
ei ryfedd gariad ef?
Ble bu cyffelyb iddo erioed?
Rhyfeddod nef y nef!

                                (Iago Trichrug)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 01.01.23

Dydd Sul, 11 Rhagfyr 2022

Oedd y newyddion yn annisgwyl? Neu oeddech chi’n synnu dim o glywed yr ystadegau diweddaraf?  Dros y pythefnos diwethaf mae canlyniadau Cyfrifiad Cenedlaethol 2021 wedi cael cryn sylw.  Y prif benawdau oedd bod 43.6% o bobl Cymru’n uniaethu â Christnogaeth, a’r canran o siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 17.8%.  Wrth ganolbwyntio ar y ffigyrau moel mae’n naturiol eu bod yn cael eu disgrifio fel dirywiad sy’n peri siom i Gymry Cymraeg a Christnogion fel ei gilydd. Ond mae’n rhaid i ni gofio mai math arbennig o ddarlun y mae cyfrifiad yn ei roi. Nid yw’n dweud llawer wrthym am gyflwr cymunedau Cymraeg nac ychwaith beth mae ticio’r blwch Cristnogaeth ar ffurflen yn ei olygu!

Mae’n siŵr eich bod wedi clywed am darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond os na fydd hynny’n cynnwys cymunedau Cymraeg, slogan wag fydd hi. Prin y gallwn ei gyfri’n llwyddiant cael miliwn o siaradwyr os yw’r iaith Gymraeg yn ddim mwy na sgil y gellir ei defnyddio fel tric mewn parti!

Ac wrth i ni feddwl am Gristnogaeth yng Nghymru, nid faint sy’n ticio bocs yw’r ffactor allweddol, ond beth yw natur y Gristnogaeth honno. Oherwydd nid i berthynas lled-braich y mae Duw yn ein galw yn Iesu Grist ond i berthynas agos o garu, ymddiried, ac ufuddhau i’r Un a ddioddefodd un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i’ch dwyn chwi at Dduw.’ (1 Pedr 3:18)

Dyma’r newyddion da sy’n sail i apêl hyfryd un o’n carolau plygain enwocaf:

Am hyn, bechadur, brysia
fel yr wyt,
ymofyn am y noddfa
fel yr wyt;
i ti’r agorwyd ffynnon
a ylch dy glwyfau duon

fel eira gwyn yn Salmon
    fel yr wyt,
gan hynny tyrd yn brydlon
    fel yr wyt. (Eos Iâl)

Mae bod yn wir ddisgybl i Grist yn golygu bywyd newydd a theulu newydd! Fel y gwelwn yn yr adnod uchod, bydd y rhai sy’n ymddiried yng Nghrist yn cael mynediad at Dduw o ganlyniad i aberth y Gwaredwr. Fe gânt hefyd eu huno â’i gilydd yn gorff Crist – cymuned gariadus o bobl a dderbyniodd yr Ysbryd Glân i’w galluogi i foli, gwasanaethu a thystiolaethu i gariad Duw ym mhob oes.

Boed ni’n byw mewn cyfnod o fendith amlwg, neu’n nofio yn erbyn y llif fel lleiafrif yn ein cymunedau, yr un yw galwad Duw i’w bobl: ‘Byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng  nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd, yn cyflwyno gair y bywyd.’ (Philipiaid 2:15-16)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 11.12.22

Dydd Sul, 27 Tachwedd 2022

Oeddech chi’n un o’r miliynau fu’n gwylio’r gêm nos Lun diwethaf?  Hyd yn oed os nad ydych yn dilyn pêl droed, gallaf ddychmygu iddi fod bron yn amhosib osgoi’r holl sôn fu am ymddangosiad cyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958.  Y bwletinau newyddion, rhaglenni dogfen, Yma o Hyd yn cael ei chanu’n ddi-ddiwedd, ac wedi’r holl ddisgwyl, daeth y foment hanesyddol.  Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei bloeddio yn Qatar ac i ffwrdd â ni!  Sut oeddech chi’n teimlo?

Rhyw chwarter awr wedi’r gic gyntaf roeddwn i’n ddigon fflat (i gyd-fynd â pherfformiad di-fflach hanner cyntaf Cymru!)  Ar ôl i’r holl heip dawelu sylweddolais fy mod wedi gwylio cannoedd o gemau pêl droed dros y blynyddoedd, a bod hynny fwy nag unwaith wedi arwain at siom!  Ym mhob agwedd o fywyd gall edrych ymlaen gormodol at rywbeth arwain at siom pan nad yw’r realiti’n cyd-fynd â’n disgwyliadau.  Neu ar y pegwn arall, gallwn gael ein siomi ar yr ochr orau gyda’r hyn sy’n digwydd oherwydd bod ein disgwyliadau mor isel! (Dwi ddim yn cyfeirio at unrhyw gefnogwyr penodol!)

Wrth i dymor yr Adfent gychwyn y Sul yma, byddwn yn clywed llawer am ddyfodiad Crist i’n byd, ac os yw 64 mlynedd o ddisgwyl am Gwpan y Byd yn teimlo’n hir, dychmygwch yr edrych ymlaen yn Israel am y Meseia hir ddisgwyliedig!  Yn ystod gweinidogaeth ddaearol Iesu gwelwyd ymatebion tra gwahanol iddo.  Bu rhai yn barod i adael popeth i’w ddilyn Ef (Luc 5:28), ond dyfarniad Ioan oedd:  Daeth i’w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono.’ (Ioan 1:11).

Mae’n hawdd edrych yn feirniadol ar y rhai a wrthododd Iesu yn y Testament Newydd, ond sut ydym ni wedi ymateb i ddyfodiad Mab y Dyn?  Efallai nad ydym yn ei wrthwynebu’n gyhoeddus, ond gall ein calonnau fod yn gyndyn iawn i edifarhau ac ildio Iddo wrth i ni wynebu gwahanol heriau a themtasiynau.  Neu efallai mai siom sy’n pwyso arnom – siom o orfod delio ag amgylchiadau anodd nad oeddem erioed wedi disgwyl iddynt ddod i’n rhan.

Erbyn diwedd y gêm nos Lun, roedd fy siom wedi pylu’n sylweddol – ac nid oherwydd unrhyw beth yr oeddwn i wedi ei wneud!  Beth bynnag yw’n cyflwr ar hyn o bryd, mae’r Efengyl yn ein cymell i droi’n golwg mewn ffydd at Iesu a gadael i’r gwirionedd amdano siapio ein disgwyliadau.  ‘Er mwyn y llawenydd oedd o’i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio, gan ddiystyru gwarth, ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. Meddyliwch amdano ef, a oddefodd y fath elyniaeth ato’i hun gan bechaduriaid, rhag i chwi flino na digalonni.’  (Hebreaid 12:2-3)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 27.11.22

Dydd Sul, 13 Tachwedd 2022

O’r diwedd mae pethau’n dod yn ôl i drefn yng nghanol Llansannan!  Gyda’r gwaith mawr wedi’i gwblhau, ers diwedd mis Hydref mae’n bosib gyrru trwy’r pentref â ffos newydd yn cario’r Afon Bach o dan y ffordd.  I rywun fel fi, sydd â dim clem am waith peirianyddol nac adeiladu, mae’r hyn y maent wedi ei gyflawni yng nghanol y pentref mewn llai na blwyddyn yn eithaf rhyfeddol.  Ac mae’r cwmni fu’n gyfrifol am y gwaith yn hyderus y gall y system weithio i’w llawn botensial pan ddaw glaw trwm.  Felly does dim i’w wneud bellach ond diolch i’r rhai fu’n rhan o’r cynllun, ac ymddiried bod y gwaith a gyflawnwyd yn ddigonol i warchod rhag dinistr.

Gan fod cynhadledd newid hinsawdd COP 27 yn cael ei chynnal ar hyn o bryd yn yr Aifft, byddwn yn clywed llawer am y bygythiadau difrifol sy’n wynebu pobl ledled y byd yn sgil tywydd peryglus o bob math.  Yn hytrach na bod tywydd eithafol yn eithriadau prin (dyweder un waith mewn canrif), mae nifer o arbenigwyr yn tybio y bydd y digwyddiadau yma’n dod yn llawer mwy cyffredin.  Oherwydd hyn, ni all unrhyw gynllun atal llifogydd warantu y bydd yn diogelu adeiladau cyfagos am byth.

Ond wrth droi at y Beibl, gwelwn fod addewid digyffelyb yn cael ei roi gan Dduw mewn ymateb i gyflwr y byd.  Er gwaethaf y dinistr mae pechod yn ei achosi wrth ein gwahanu oddi wrth ein Creawdwr, andwyo’r greadigaeth, ac achosi rhwyg rhwng pobl â’i gilydd, mae gobaith trwy’r hyn a wnaeth ein Harglwydd Iesu Grist.  Ac nid ateb dros dro ydyw, ond aberth un waith am byth Iesu, Oen Duw sy’n cymryd ymaith bechod y byd! (Ioan 1:29)

Byddwn yn aml yn wynebu anawsterau a dryswch yn ein bywydau, ac yn brwydro i geisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd i ni.  Cofiwn nad yw’r Efengyl yn ein galw i ddeall popeth, ond i ymddiried yn y Duw sydd yn gwybod y cyfan, ac yn ei Fab a ddywedodd ar y Groes “Gorffennwyd”.  Hyd yn oed yn ein hansicrwydd a’n hofnau, trwy ffydd yng Nghrist gallwn gael hyder i wynebu beth bynnag a ddaw oherwydd yr hyn y mae wedi ei gyflawni trosom.  Diolch i Dduw, oherwydd aberth Iesu, mae gan y Cristion hyder i fynd at Dduwar hyd ffordd newydd a byw y mae Ef wedi ei agor inni’. (Hebreaid 10:19-20)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 13.11.22

Dydd Sul, 30 Hydref 2022

Rydym yn gwybod erbyn hyn pwy yw’r trydydd person mewn blwyddyn i symud i mewn i Rif 10 Stryd Downing! Yn dilyn ymddiswyddiad Boris Johnson ar 7 Gorffennaf, a 50 diwrnod hynod Liz Truss wrth y llyw, Rishi Sunak yw’r Prif Weinidog diweddaraf yn Llundain. Mae’n ddigon posib eich bod wedi cael llond bol ar yr holl syrcas wleidyddol, ond mae’r misoedd diwethaf wedi dysgu rhai gwersi pwysig i ni. Yn ôl y sôn, pan ofynnwyd i un Prif Weinidog yn yr 20fed ganrif beth oedd yr her fwyaf i lywodraeth, ei ateb cofiadwy oedd, “Events, my dear boy, events.” A gallwn ddweud rhywbeth tebyg am ein bywydau ninnau hefyd. Er cymaint yr ymdrechwn i roi trefn ar bethau a gwneud penderfyniadau doeth, rhaid i ni gydnabod nad ydym mewn rheolaeth lwyr o’n bywydau. Wedi cyfnodau hir heb ryw lawer yn digwydd, mewn byd syrthiedig gallwn ninnau wynebu cyfnodau dryslyd o newidiadau poenus, ac argyfyngau nad oeddem yn barod amdanynt. Dyma pam y mae’r disgrifiad ohonom fel glaswellt neu flodeuyn y maes mor addas yn Eseia 40:6-7.

Wrth i ansicrwydd gwleidyddol ledaenu dros y ddeufis diwethaf, cynyddodd y galwadau croch am lywodraeth synhwyrol i geisio adennill mymryn o sefydlogrwydd. Yn y pen draw, dyna pam y gwelwyd cymaint o newid arweinwyr. Amser yn unig a ddengys pa fath o lywodraeth a ddaw yn sgil y newid mewn personél!

Ond wrth i ni wynebu corwyntoedd bywyd, newyddion da’r Beibl yw bod yna deyrnas sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd (Hebreaid 12:28).  Teyrnas dragwyddol Dduw yw hon, ac nid trwy glyfrwch na daioni dynol y byddwn yn ei hennill; cawn ei derbyn trwy ras Duw wrth i ni ymddiried yn ein Harglwydd Iesu Grist.

Mae’r Beibl yn ein hatgoffa am y Deyrnas, ond hefyd yn rhoi gobaith i ni trwy bwysleisio pwy sy’n llywodraethu. Wrth wylio’r newyddion dros yr wythnosau nesaf, ac wrth wynebu beth bynnag a ddaw i’n rhan, cofiwn y disgrifiad hyfryd hwn o’r Un nad oes diwedd ar gynnydd Ei lywodraeth: 6  Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe’i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”. 7  Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a’i frenhiniaeth, i’w sefydlu’n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sêl Arglwydd y Lluoedd yn gwneud hyn.  (Eseia 9:6-7)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 30.10.22

Dydd Sul, 16 Hydref 2022

Yr wythnos ddiwethaf darllenais erthygl ddiddorol oedd yn cynnig cyngor ar sut i leihau’r defnydd o egni mewn cartrefi.  Roedd nifer o’r awgrymiadau’n ddigon cyfarwydd, fel gostwng fymryn ar dymheredd y thermostat gwres canolog, neu wneud yn siŵr fod ein bylbiau yn fwy effeithiol.  Ond fe gefais fy synnu gan un awgrym penodol, sef treulio llai o amser yn y gawod!  Honnodd yr erthygl (ar wefan y BBC) y byddai cwtogi amser cawod o 8 i 4 munud yn arbed hyd at £70 y flwyddyn i’r rhai sy’n cymryd o leiaf 5 cawod yr wythnos.  Rwyf wedi clywed am bobl yn mwynhau bath hamddenol er mwyn ymlacio, ond ydi hynny’n wir am gawodydd hefyd?  Ai’r awgrym felly oedd bod angen i ni lanhau llai ar ein cyrff er mwyn arbed arian?!

Gwnaeth hyn i mi gofio am ddyn o’r enw Naaman y mae’r hanes amdano wedi’i gofnodi yn 2 Brenhinoedd 5.  Pennaeth byddin Syria oedd Naaman, dyn pwysig a gafodd ei daro â’r gwahanglwyf – afiechyd poenus a olygai bod dioddefwyr yn gorfod byw ar wahân i weddill cymdeithas.  Mae’n amlwg bod Naaman wedi cyrraedd pen ei dennyn oherwydd derbyniodd gyngor gan ferch gaeth o Israel (gelynion Syria) i fynd at Eliseus y proffwyd i geisio gwellhâd.  Teithiodd gyda’i feirch, ei gerbydau, a llwyth o aur ac arian i wneud yn siŵr y byddai pawb yn gwybod mai gŵr o statws uchel ydoedd.  Ond fe’i siomwyd yn arw gan ymateb Eliseus.  Yn hytrach na seremoni llawn rhwysg i ddangos parch ac anrhydedd, neges ddi-nod a gafodd gan Eliseus yn ei gynghori i ymolchi saith gwaith yn afon Iorddonen.  Yn ôl 2 Brenhinoedd 5:11 Beibl.net, ‘dyma Naaman yn gwylltio ac yn mynd i ffwrdd.’  Gwrthododd ffordd Duw o’i wella oherwydd ei falchder – doedd o ddim am iselhau ei hun y ffordd yma er mor druenus oedd ei gyflwr.  Ond wedi ychydig o berswâd, ‘dyma fe’n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud.  A dyma’i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.’ (2 Brenhinoedd 5:14)

Yn yr hanes hwn cawn ddarlun arbennig o barodrwydd yr Arglwydd i iacháu a rhybudd rhag i ni wrthod gras Duw gan nad yw’n cyd-fynd â’n disgwyliadau ni.  Nid peth hawdd yw syrthio ar ein bai a gofyn am faddeuant, ond wrth i ni droi mewn ffydd at Iesu Grist, cawn dderbyn cymaint yn fwy nag yr ydym yn ei haeddu:  ‘Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a’n glanhau o bob anghyfiawnder.’ (1 Ioan 1:9)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 16.10.22

Dydd Sul, 2 Hydref 2022

Tybed faint ohonoch sydd wedi clywed am Andrew van der Bijl? Dim llawer mae’n siŵr, ond efallai bod crybwyll y llyfr God’s Smuggler neu Brother Andrew yn canu cloch? Sôn y mae’r gwahanol enwau am ŵr o’r Iseldiroedd a fu farw yn 94 oed yr wythnos ddiwethaf. Fel cenhadwr ifanc bu’n teithio’n gyson i wledydd Comiwnyddol dwyrain Ewrop gan ddarparu Beiblau ar gyfer Cristnogion oedd yn wynebu gwrthwynebiad chwyrn yr Undeb Sofietaidd. Cyhoeddwyd nifer o’i atgofion yn y gyfrol God’s Smuggler ym 1967, ac fe sefydlodd yr elusen Open Doors sy’n parhau i gefnogi Cristnogion dan erledigaeth ledled y byd.

Wrth ddarllen am ei deithiau niferus y tu hwnt i’r Llen Haearn, yr hyn a ddaeth yn amlwg oedd sut yr oedd yn dibynnu’n ymarferol ar Dduw bob cam o’r daith. Nid oedd ganddo gynlluniau cyfrwys i osgoi’r awdurdodau, roedd o’n barod i weddïo a derbyn y byddai’r Arglwydd yn ei arwain a’i gynnal i gyflawni’r gwaith. Er enghraifft, unwaith wrth iddo groesi’r ffin yn ei gar, cafodd ei atal mewn check-point gan filwyr oedd am archwilio’r modur. Gwyddai Andrew yn iawn fod cefn ei gar yn llawn o Feiblau anghyfreithlon. Yn hytrach na’u cuddio, gweddïodd ar i’r Arglwydd ymyrryd, ac fe atebwyd ei weddi wrth i’r milwyr ganiatáu iddo barhau ar ei daith heb ddweud gair am y llyfrau gwaharddedig ar y sêt gefn!

Y perygl i ni o glywed y fath hanesion rhyfeddol yw dyrchafu’r unigolyn sy’n arddangos ffydd, yn hytrach na’r Duw sy’n ymateb yn raslon i alwad Ei blentyn. Yn Mathew 17:20 gwelwn yr Arglwydd Iesu yn dysgu ei ddisgyblion am ffydd trwy ddweud: “Credwch chi fi, petai’ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i’r fan acw’ a byddai’n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.”

Ym mha ffyrdd allwn ni ddibynnu’n ymarferol ar Dduw dros yr wythnos nesaf tybed? Oes sefyllfa y dylem fod yn gofyn yn benodol am gymorth yr Arglwydd i’w hwynebu? Pa benderfyniadau anodd sydd angen eu cymryd yr ydym wedi bod yn eu hosgoi hyd yn hyn?

Gwers fawr Iesu yw nad maint ein ffydd sy’n allweddol, ond ym mhwy y mae ein ffydd! Ac os ydym wedi rhoi ein ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, gallwn fod yn dawel ein meddwl na fydd Ef yn ein gadael nac yn cefnu arnom, (Hebreaid 13:5) ac y bydd yn adeiladu Ei eglwys a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi.’ (Mathew 16:18 beibl.net)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 02.10.22

Dydd Sul, 18 Medi 2022

Fyth ers y cyhoeddiad am farwolaeth Brenhines Elisabeth yr wythnos diwethaf cafwyd teyrngedau lu iddi gan bobl ledled y byd. Cyfeiriodd llawer at ei ffydd Gristnogol, gan ddiolch iddi am ei pharodrwydd i roi mynegiant cyhoeddus i’r hyn oedd yn sylfaen bwysig i’w bywyd a’i gwasanaeth. Hyd yn oed ymhlith gwrthwynebwyr y frenhiniaeth mynegwyd cydymdeimlad gyda’i theulu, a pharch tuag ati fel gwraig urddasol a gymrodd ei dyletswyddau fel pennaeth y wladwriaeth o ddifrif.

Yng nghanol yr holl atgofion, tynnodd un rhan o deyrnged fy sylw yn arbennig. Coffâd o eiddo Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc ydoedd, ble dywedodd fod gan Elisabeth le arbennig ym mywydau pobl oherwydd iddi fod yn bresenoldeb cyson ac arhosol. Mewn byd llawn newid lle mae arweinwyr gwleidyddol yn mynd ac yn dod (yn aml iawn y dyddiau hyn!), yn ôl Macron roedd rhywbeth oedd yn cynrychioli tragwyddoldeb yn perthyn i’r Frenhines – ‘she represented a sense of eternity.’ Ni allaf i na’m rhieni gofio amser pan nad oedd Elisabeth ar yr orsedd, ac felly gallaf ddeall pam y byddai pobl yn meddwl amdani fel rhywun fyddai yno am byth, ond mae’r wythnos ddiwethaf wedi amlygu realiti poenus marwolaeth i ni. Fel rhan o’r datganiad am farwolaeth y Frenhines cyhoeddwyd bod ei mab, Charles, bellach yn Frenin. Dyna’r broses gyfansoddiadol sydd rhaid ei dilyn, ond roedd hefyd mewn brawddeg gwta yn nodi nad yw Elisabeth, yn fwy nag unrhyw frenin neu frenhines ddaearol arall, yn teyrnasu’n dragwyddol.

Er mor anodd yw wynebu diwedd oes unrhyw un, nid yw’r Beibl yn ceisio osgoi’r pwnc. Cawn ein hatgoffa’n gyson fod y cryfaf ohonom yn feidrol, a dros dro fydd ein bodolaeth mewn byd syrthiedig: Y mae’r meidrol yn union fel anadl, a’i ddyddiau fel cysgod yn mynd heibio.’ (Salm 144:4) Gallai geiriau fel yma’n hawdd ein harwain at anobaith, ond maent wedi’u cynnwys yn y Beibl sydd hefyd yn dweud fod yna Un tragywydd: ‘Cyn geni’r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a’r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.’ (Salm 90:2)

A’r hyn sy’n gwneud Cristnogaeth y newyddion gorau erioed yw’r ffaith bod y Duw tragwyddol wedi gwisgo cnawd, ac o’i fawr gariad bod Iesu wedi wynebu a choncro marwolaeth ar ein rhan. Golyga buddugoliaeth y groes a’r bedd gwag y gall unrhyw un ohonom, boed o deulu cyffredin neu frenhinol, trwy ffydd yn Iesu Grist etifeddu bywyd tragwyddol. Cofiwn addewid Iesu i’w braidd –

‘Yr wyf fi’n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o’m llaw i.’ (Ioan 10:28)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 18.09.22

Dydd Sul, 4 Medi 2022

Beth mae mis Medi yn ei arwyddo i chi? Os ydych chi’n debyg i mi, mis paratoi yw Medi, y cyfnod o’r flwyddyn sy’n fy sbarduno i fod yn barod ar gyfer y newid sydd i ddod. Bydd y shorts yn dychwelyd i’r drôr a minnau’n ceisio gwneud yn siŵr bod digon o danwydd i’n cadw’n gynnes pan ddaw’r oerfel! Ond wrth fynd ati eleni, does dim modd osgoi’r cynnydd eithriadol ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau angenrheidiol. Yn ôl y rhybuddion bydd pris arferol trydan i gartrefi yn codi 80% yn fuan, sy’n siŵr o arwain at wasgfa bryderus i nifer fawr o deuluoedd a busnesau. Beth allwn ni ei wneud? Rhaid i ni fod yn ddoeth fel unigolion, teuluoedd ac eglwysi gan gofio bod Cristnogion o’r cyfnod cynharaf wedi cael eu siarsio i beidio anghofio’r tlodion (Galatiaid 2:10), a bod gofyn i ni roi ‘ar sail yr hyn sydd gan rywun, nid yr hyn nad yw ganddo.’ (2 Corinthiaid 8:12). Ac i’r rhai sydd mewn gwir angen, cofiwn fod yna elusennau a sefydliadau sy’n barod i helpu’n ymarferol ac yn emosiynol – dyma restr fer o rifau ffôn a gwefannau defnyddiol:

  • Samariaid: Llinell Gymraeg 0808 164 0123
  • RABI: 0800 188 4444
  • Sefydliad DPJ: 0800 587 4262
  • Christians Against Poverty: capuk.org
  • Banc Bwyd Dinbych: www.valeofclwyd.foodbank.org.uk

Dros y misoedd nesaf bydd penderfyniadau digon anodd yn wynebu nifer, ond i eraill mae’r sefyllfa’n frawychus gan nad oes ganddynt opsiynau ar ôl. Gyda’r cynnydd mewn prisiau mor enfawr, a heb obaith am ragor o arian, maent wedi’u dal mewn caethiwed sy’n egluro pam fod cymaint yn galw ar y llywodraeth i gamu i’r adwy. Wrth feddwl yn y termau hynny, dyna’r darlun a welwn yn y Beibl hefyd. Fel dynoliaeth rydym mewn caethiwed druenus i bechod a’n ffyrdd hunan-ganolog o fyw ein bywydau. Ond yn wahanol i’r argyfwng costau byw, nid llywodraeth ddynol sydd am ein hachub, ond Llywodraethwr daer a nef. Yn Iesu Grist mae gennym Frenin sydd wedi gweld ein cyflwr, ac wedi ymateb yn drugarog. O’i fawr gariad bu’n barod i dalu’r pris ar y Groes am ein crwydro, er mwyn ein rhyddhau i fywyd newydd o gariad, gwasanaeth a diolchgarwch. Wrth wynebu’r cyfnod ansicr nesaf, cofiwn fod gennym Un y gallwn droi ato ym mhob argyfwng, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion: Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.” (Marc 10:45 Beibl.net)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 04.09.22