Dydd Sul, 23 Mai 2021

Beth yw’r arwyddion ein bod yn mynd yn hŷn?!  Yn ddiweddar mae yna ddau beth sydd wedi gwneud i mi fod yn arbennig o ymwybodol o dreigl amser.  Y cyntaf yw’r ffaith fod angen i mi adnewyddu fy ngherdyn trwydded yrru.  Yn ôl y rheolau rhaid gwneud hyn bob deng mlynedd, ond mae’n teimlo fel mai dim ond blwyddyn neu ddwy sydd wedi pasio ers y tro diwethaf!  Yr ail beth oedd cael gwybod bod yr unig ddeintydd yr wyf wedi bod o dan ei ofal yn bwriadu ymddeol.  Nid yw’r un o’r rhain yn syndod – mae nifer o ddogfennau swyddogol sy’n cynnwys dyddiad adnewyddu ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymddeol o’u gwaith (ar ryw bwynt)!  Ond mae’r pethau bychain hyn yn dangos mor gyfnewidiol yw’r byd yr ydym yn byw ynddo. Prin yw’r elfennau mewn unrhyw agwedd o’n bywyd sy’n aros yn eu hunfan am gyfnod hir o amser, ac mae’r flwyddyn a mwy diwethaf wedi dangos hynny’n glir.

Eto, wrth i ni droi at y Beibl cawn ein hannog i feddwl am ein byd ac am ein bywydau mewn ffordd benodol.  Er nad yw’r Beibl yn cuddio mor boenus ac anwadal y mae bywyd yn gallu bod mewn byd syrthiedig, nid yw’n ein gadael mewn anobaith. Oherwydd mae gweld ein hunain a’n profiadau yng ngoleuni’r hyn a ddywed Gair Duw yn gallu bod yn ysgytwol ac yn gysur enfawr. Ystyriwch am funud y ffordd y mae Paul yn esbonio effeithiau atgyfodiad Iesu Grist yn 1 Corinthiaid 15.  Yn gyntaf mae’n nodi mor allweddol yw’r Atgyfodiad i’r ffydd Gristnogol: ‘os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich pechodau yr ydych o hyd.’  (1 Corinthiaid 15:17)  Yna, tua diwedd y bennod, gwelwn y geiriau syfrdanol hyn: Rhaid i ni, sydd â chorff sy’n mynd i bydru, wisgo corff fydd byth yn pydru. Byddwn ni sy’n feidrol yn cael gwisgo anfarwoldeb!’ (1 Corinthiaid 15:53 beibl.net)

Er bod pawb ohonom yn wynebu gwahanol effeithiau poenus byw yn y byd sydd ohoni, diolchwn i Dduw nad felly y bydd hi am byth.  I’r Cristion, mae atgyfodiad Iesu yn golygu gobaith cadarn hyd yn oed yng nghanol salwch, ofnau ac ansicrwydd.  Byddwn yn cael gwisgo anfarwoldeb oherwydd bod ein cynrychiolydd, Iesu, wedi concro marwolaeth a phechod ar ein rhan. A gan fod marwolaeth wedi methu dal gafael ar Iesu, mae’n fyw heddiw i’n bugeilio, ein cysuro a’n harwain trwy ei Ysbryd Glân.

Am fod fy Iesu’n fyw,
byw hefyd fydd ei saint;
er gorfod dioddef poen a briw,
mawr yw eu braint:  (Caneuon Ffydd 762)

Rhodri

Llais Bro Aled 23.05.21

 

Comments are closed.