Ar gychwyn blwyddyn arall gyda’n gilydd, mae’n briodol ein bod yn gweddïo ar i Arglwydd y Lluoedd ein cynnal a’n harwain dros y 12 mis nesaf. Nid oes neb ohonom yn gwybod beth sydd rownd y gornel ond gall disgyblion Iesu brofi tangnefedd oherwydd bod gennym Dad cariadus sydd eisoes wedi gweithredu trwy anfon ei Fab yn Waredwr i’r byd. Dyna pam y caiff Cristnogion eu hannog yn y Beibl: ‘Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. (Philipiaid 4:6)
Ond mae’n rhaid i ni gyfaddef nad yw diolchgarwch yn beth hawdd. Yn enwedig pan ydym ni neu’n cydnabod yn mynd trwy gyfnodau anodd, nid diolch yw’r peth cyntaf sydd ar ein meddwl. Ar yr union adegau hyn mae angen cymorth Duw arnom. Meddyliwch am sefyllfa Pedr ar y dŵr ym Mathew 14:22-33. Er bod Iesu gerllaw, pan roddodd Pedr sylw i fygythiad y gwynt a’r tonnau, dechreuodd suddo a gwaeddodd, “Arglwydd, achub fi.” Mae’r hanes hwn yn ein dysgu mor hawdd yw petruso hyd yn oed pan ydym yn agos at yr Arglwydd, a sut y gallwn ddibynnu’n llwyr ar Iesu yn ein gwendid a’n diffyg ffydd. Iesu sy’n dod â heddwch drwy farw ar y Groes (Colosiaid 1:20), ac Ef yw’r Un nad oedd posib i farwolaeth ddal gafael ynddo. (Actau 2:24)
Beth am i ni ymrwymo ar ddechrau blwyddyn i weddïo dros eraill yn eu cyfyngderau, ar i’r Ysbryd Glân eu galluogi i weld bod Iesu gyda hwy yng nghanol eu hofnau a’u poen?
Wrth sôn am ddiolchgarwch, mae’n addas ein bod yn diolch i Dduw am Ei ffyddlondeb wrth i ni gofnodi dirwyn yr achos i ben ym Mheniel. O ddechrau 2022 bydd y capel a’r adeiladau yn cael eu trosglwyddo i’r Henaduriaeth a hoffwn ddal ar y cyfle i ddiolch yn fawr i holl aelodau a blaenoriaid Peniel am y cyfan a wnaethant dros y blynyddoedd, ac yn arbennig am eu hurddas a’u pwyll wrth wynebu’r broses ddifrifol o benderfynu ar eu dyfodol. Er ein bod yn naturiol yn drist o weld diwedd pennod fel hon, ni allwn osgoi’r ffaith bod y sefyllfa ar draws Cymru’n awgrymu y bydd nifer pellach o’n heglwysi yn gorfod wynebu’r un penderfyniadau anodd yn ystod y blynyddoedd nesaf. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth ymgodymu â materion o’r fath, a ffydd fyw i’n calonogi gydag addewid yr Arglwydd:
“Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.” (Hebreaid 13:5)
Rhodri