Dros yr wythnosau diwethaf mae cwestiynau mawr wedi codi ynglŷn ag ymddygiad gwleidyddion a swyddogion Llywodraeth San Steffan. Clywir yr un cyhuddiadau’n cael eu gwneud mewn bwletinau newyddion rif y gwlith: bod y cyhoedd wedi cadw at gyfyngiadau tynn mewn sefyllfaoedd torcalonnus, tra’r oedd y rhai mewn grym yn rhagrithwyr. Yn gyhoeddus, roeddent yn uchel eu cloch yn cymell pawb i lynu at y cyfyngiadau a luniwyd ganddynt, ond y tu ôl i ddrysau caeëdig, roeddynt yn bihafio fel petaent uwchlaw’r gyfraith.
Yn naturiol, mae hyn wedi achosi embaras i’r Llywodraeth ac wedi gwneud i nifer feddwl yn ddwys ynglŷn â pha rinweddau yr ydym yn dymuno’u gweld yn ein harweinwyr. Ond i’r Cristion sy’n ceisio gwneud synnwyr o’r holl sefyllfa, siawns nad oes yna hefyd rybudd clir yng ngeiriau Iesu Grist yn y Bregeth ar y Mynydd:
“Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu sut y dywedi wrth dy gyfaill, ‘Gad imi dynnu allan y brycheuyn o’th lygad di’, a dyna drawst yn dy lygad dy hun? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o’th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu’r brycheuyn o lygad dy gyfaill.” (Mathew 7:3-5)
Sylwch nad yw Iesu’n dweud bod cyfeirio at feiau (brycheuyn) rhywun arall ynddo’i hun yn anghywir. Wrth i ni ddarllen trwy’r Efengylau, gwelwn fod Iesu yn gyson yn tynnu sylw at ragrith, pechod a’r anghyfiawnder oedd o’i gwmpas. Y broblem yw gwneud hynny heb gydnabod ein heuogrwydd ni – barnu eraill heb gyffesu ein bod ni’n hunain yn haeddu barn hefyd.
Mor hawdd yw bod yn hunangyfiawn wrth gymharu’n hunain â phobl eraill! Ond mewn ffordd annisgwyl mae dysgeidiaeth Iesu yn Luc 18 yn rhoi rhybudd a gobaith, hyd yn oed i’r hunangyfiawn! Yn Nameg y Pharisead a’r Casglwr Trethi, mae’n disgwyliadau yn cael eu troi ben i waered. Nid y dyn ‘duwiol’ ac uchel ei barch ond y casglwr trethi, baw isa’r domen, sy’n mynd adref ‘a’i berthynas gyda Duw yn iawn.’ (Luc 18:14 beibl.net)
Pam ydw i’n dweud fod yna obaith hyd yn oed i’r hunangyfiawn yn y ddameg hon? Oherwydd ei bod yn ein dysgu mai’r unig ffordd at Dduw i bechadur yw trwy syrthio ar ein bai, a gofyn i Dduw am faddeuant. A chan fod Iesu, wrth fynd i’r groes, wedi delio â phechod unwaith ac am byth, mae’r Efengyl yn gwahodd pobl hunangyfiawn, a’r rhai sydd wedi’u llethu gan euogrwydd, oll i edifarhau a derbyn maddeuant yng Nghrist, waeth beth yw natur eu pechod.
Dyma un sy’n caru maddau
i bechaduriaid mawr eu bai;
diolch iddo
byth am gofio llwch y llawr. (439 CFF)
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 30.01.22