Dydd Sul, 22 Mai 2022

Tybed ydych chi wedi clywed y gôg eleni? Ers inni symud tŷ’n ddiweddar, un peth sydd wedi fy llonni yw sylwi ar gân adar o bob math, gan gynnwys y gwcw. Ac mae hynny wedi gwneud i mi gwestiynu ai fi sydd wedi nesáu at yr adar trwy fynd allan o’r pentref, neu oes yna lai o sŵn cefndirol sy’n gwneud yr adar yn haws i’w clywed?

Wrth gofio’r cyfnod clo cyntaf yn 2020, nododd llawer ohonom mor hyfryd oedd cael ail-ddarganfod ein hardal leol, ac mor braf oedd mwynhau byd natur o’n cwmpas. Wrth gwrs, nid byd natur oedd wedi newid – ni oedd wedi newid gan fod patrymau cyfarwydd ein prysurdeb wedi stopio! Golygodd hyn ein bod yn sylwi o’r newydd ar bethau oedd wedi bod o’n cwmpas erioed! Dwi’n siŵr fod hyn yn wers ysbrydol bwysig i ni hefyd – yr angen i ni fod yn wyliadwrus nad yw patrymau’n bywydau arferol yn cau ein llygaid a’n clustiau i’r hyn sy’n werthfawr ac er ein lles. Mae gan bawb ohonom ddyletswyddau neu amgylchiadau sy’n siapio’r hyn yr ydym yn ei wneud neu’r hyn nad ydym yn ei wneud, ond ni fyddai’n ddrwg o beth i ni ystyried, oes yna bethau sy’n cael eu gwasgu allan o’n bywydau yn anfwriadol?

Cofiwn fod Mab Duw yn ystod ei weinidogaeth ddaearol wedi dysgu, teithio, a chyflawni nifer helaeth o weithredoedd nerthol. Serch hynny, mae mwy nag un adroddiad am Iesu’n encilio oddi wrth y tyrfaoedd a’i ddisgyblion er mwyn gweddïo a bod gyda’i Dad nefol (e.e. Marc 6:46, Luc 6:12). Os oedd oedi’r gweithgaredd arferol er mwyn gweddïo a chael cymundeb â Duw yn bwysig i Iesu, siawns na allwn ninnau hefyd weld bod angen iddo fod yn flaenoriaeth yn ein bywydau?

I ddod yn ôl at y gôg, gallai rhywun ddadlau nad diffyg gwrando yw’r broblem, ond bod yr aderyn arbennig hwn wedi prinhau’n sylweddol dros y blynyddoedd. Efallai fod hynny’n wir am fyd natur, ond ni ddylem ddefnyddio’r un ddadl am ein hymwneud â’r Arglwydd. Nid yw’n Duw trugarog a graslon yn lleihau ei ras a’i gariad tuag at Ei bobl pan maent yn mynd trwy gyfnodau anodd, a tydi’r Arglwydd ychwaith ddim yn cuddio oddi wrthym gan roi posau dyrys i ni er mwyn dod i’w adnabod o bell.

Wrth i Iesu ddod i’r byd gan fyw, marw, ac atgyfodi er mwyn achub Ei bobl, daeth Duw yn agos atom. A thrwy ffydd yng Nghrist, gallwn ninnau ddod ato Ef a phrofi bywyd tragwyddol fydd yn y diwedd yn golygu cael ‘adnabod fel y cefais innau fy adnabod.’ (1 Corinthiaid 13:12)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 22.05.22

Comments are closed.