Bu’n braf cael cyfle i grwydro maes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos ddiwethaf a gweld cymaint o wynebau cyfarwydd! Rwy’n ysgrifennu’r myfyrdod hwn ar fore dydd Iau a hyd yn hyn chlywais i ddim cwyno am draffig, ac ar y cyfan bu’r tywydd yn ddigon dymunol. Ond hyd yn oed os nad ydych wedi mentro ar y maes ger Dinbych, mae’n debyg bod nifer ohonoch wedi cael cip ar yr Eisteddfod ar y teledu a sylweddoli bod trefn wahanol i’r cystadlu yn 2022. Yn hytrach na’r hen arferiad o gynnal rhagbrofion gyda dim ond y goreuon (yn nhyb y beirniaid!) yn cystadlu ar lwyfan y pafiliwn, eleni cafodd pawb oedd yn cystadlu gyfle i wneud hynny ar lwyfan un o’r tri phafiliwn swyddogol.
Wn i ddim beth oedd y rheswm a roddwyd dros y newid ond gallaf ddychmygu bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd wrth eu boddau fod pawb o’r cystadleuwyr yn cael y fath gyfle. Does dim amheuaeth fod yna densiwn oesol ynghlwm wrth gystadlu. Pwrpas cystadleuaeth yw gwahaniaethu rhwng y rhai sy’n ennill a’r rhai sydd ddim, ac felly’n anorfod bydd rhai ar ben eu digon tra bod eraill yn profi siom. Ac mae’n bwysig i ni gofio nad yw pawb yn meddu’r un doniau, nac ychwaith yn derbyn yr un lefel o hyfforddiant a chefnogaeth.
Felly wrth ystyried y cwestiynau mawr hyn ynglŷn â chystadlu digwyddais ddarllen rhan gyntaf Llythyr Paul at y Rhufeiniaid: ‘Yr wyf yn cyfarch pawb yn Rhufain sydd yn annwyl gan Dduw, a thrwy ei alwad ef yn saint. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.’ (Rhufeiniaid 1:7) Roedd Paul yn eiddgar i’r holl Gristnogion wybod eu bod yn annwyl gan Dduw. Dyma neges hyfryd i Gristnogion cryf a gwan, hen ac ifanc, gwryw a benyw, yn medru canu fel eos neu’n methu canu nodyn!
Yn ystod Eisteddfod yr Urdd gwelwyd amrywiaeth helaeth o ddoniau’n cael eu hamlygu ar y llwyfannau, ond roedd un peth yn gyffredin i bob cystadleuydd – roeddent i gyd yn perthyn, yn aelodau o’r Urdd!
Oherwydd yr hyn wnaeth Iesu trwy ei fywyd di-fai, ei farw aberthol a’i atgyfodiad gogoneddus, yn ôl y Beibl os ydym ni’n perthyn i Grist trwy ffydd rydym yn saint, yn bobl arbennig i Dduw. Ac mae gan bawb o’r saint eu doniau, eu cymeriad a’u diddordebau gwahanol tra’n rhannu’r un gobaith, gan ein bod wedi’n prynu i ryddid ‘â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist.’ (1 Pedr 1:19)
Diolch i Dduw am yr amrywiaeth ymhlith Ei saint, a diolch am yr undod sydd rhyngom yn Iesu Grist!
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 05.06.22