Dydd Sul, 19 Mehefin 2022

Tybed ydych chi wedi cael profiad tebyg: cael eich atgoffa o lyfr, ffilm neu gyfres deledu arbennig, a phenderfynu ail-ymweld â’r hyn a roddodd y fath fwynhad i chi? Dyna ddigwyddodd i mi yn dilyn fy sgwrs ddiweddar ar zoom gyda Gwilym ac Alex Tudur. Soniodd Gwilym am gyfrol Dane Ortlund, Gentle and Lowly: The Heart of Christ for Sinners and Sufferers, a gwnaeth hynny i mi feddwl llawer am y gyfrol arbennig hon a ddarllenais ddwy flynedd yn ôl.

Dwi’n siŵr bod nifer ohonom wedi teimlo’r ofnau hynny sy’n codi cyn cyfweliad swydd, neu wynebu’r tensiwn annifyr cyn cyfarfod â rhywun lle’r ydych yn ansicr sut dderbyniad gewch chi? Wrth gwrs gall sefyllfaoedd o’r fath fynd yn dda neu’n ddrwg, ond mor hyfryd yw gweld yr ofnau a’r tensiwn yn diflannu’n sydyn oherwydd y ffordd garedig y cawsom ein trin gan eraill. Bryd hynny byddwn yn sylweddoli mai’r hyn oedd wedi achosi’r annifyrrwch o flaen llaw oedd ein darlun anghywir o’r bobl yr oeddem am eu cyfarfod.

Ac mewn ffordd, dyna ddadl awdur Gentle and Lowly; ein bod yn tueddu i feddwl am Dduw mewn ffordd sy’n gwbl groes i bwy ydyw mewn gwirionedd, yn enwedig felly pan fyddwn yn profi gorthrymderau neu’n delio ag euogrwydd. Gallwn greu darlun negyddol o’r Arglwydd fel un sy’n ddi-hid am ein cyflwr ac yn llym yn Ei ymwneud â ni pan fyddwn ar ein gwannaf.

Yn hytrach, anogaeth y gyfrol yw y dylem drwytho’n hunain yn yr hyn sy’n cael ei ddatgelu i ni am Dduw yn ei Air. Dyma le y cofnodwyd hanes y Duw tragwyddol yn arwain a chadw Ei bobl dros y canrifoedd, cyn dod mewn cnawd yn Iesu Grist i achub y colledig. Wrth i ni ddarllen a myfyrio ar yr hyn sydd yn y Beibl, gyda chymorth yr Ysbryd Glân gallwn weld fod yna gysondeb trwyddo. Cawn ein cyflwyno i Dduw sy’n amyneddgar, yn garedig ac yn drugarog, yn maddau beiau ond eto ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi. (Exodus 34:6-7 beibl.net)

Ac yng Ngair Duw y gwelwn un o wahoddiadau hyfrytaf yr Arglwydd Iesu, sy’n gysur i ni heddiw, ac sy’n dangos rhywbeth arbennig am galon neu gymeriad Duw:

“Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.

Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.” (Mathew 11:28-30)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 19.06.22

Comments are closed.