Un o’r pethau a gynyddodd yn sylweddol yn ystod y pandemig oedd fy edmygedd tuag at gyflwynwyr teledu: nid oherwydd fy mod wedi gwylio llawer arnynt, ond yn sgil fy ymdrechion fy hun i gyfathrebu trwy gamera mewn ystafell wag! Trwy’r profiad anghyfforddus hwn daeth yn amlwg i mi cymaint o ddawn yw bod yn naturiol pan yn siarad â phobl nad ydych yn eu gweld! Ac i nifer o gyflwynwyr neu ohebwyr ar y cyfryngau, gallaf ddychmygu bod y dasg hyd yn oed yn anoddach pan maent yn holi pobl yn syth ar ôl canlyniad arbennig, neu fuddugoliaeth o bwys. Yn achos Mari Lovegreen gyda buddugwyr Eisteddfod yr Urdd neu Dylan Ebenezer ar ochr cae pêl droed, roedd hi’n dipyn o gamp ennyn ymateb gan eraill yng nghanol corwynt o emosiynau. Mor aml, prin yw’r geiriau – unai “waw” neu “wn i ddim beth i’w ddweud!”
Ar adegau fel hyn y byddwn yn gweld profiad y cyflwynwyr yn dod i’r fei wrth iddynt helpu’r rhai y maent yn eu cyfweld. Gwnânt hyn wrth ofyn cwestiynau am bethau penodol neu geisio eu hatgoffa o rywun arbennig y dylid diolch iddynt.
Wrth i ni fyw ein bywydau a cheisio gwneud synnwyr o’r hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud, rydym ninnau angen help hefyd. Meddyliwch er enghraifft am yr adran gofiadwy hon o weddi Paul dros Gristnogion Effesus (Effesiaid 3:18-19): Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â’r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth.
Sut mae unrhyw Gristion yn cychwyn deall lled, hyd, uchder a dyfnder cariad Crist? Fel y gwelwn yn Effesiaid 3:16-17 (beibl.net), byddwn yn derbyn cymorth gan yr Ysbryd Glân wrth i Grist wneud ‘ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe.’ Gyda’n gilydd, o gam i gam, bydd yr Ysbryd yn dyfnhau ein profiad o gariad Crist wrth i ni ymddiried, gwrando a siarad gyda’r Arglwydd. Ac wrth i ni dyfu yn ein ffydd, gallwn ddibynnu ar oleuni’r Ysbryd i’n helpu i weld yn gliriach beth yw ein anghenion, a sut y mae Crist yn darparu ar ein cyfer. Beth am i ni wneud hynny yr wythnos hon – dewis adnod, addewid, neu ddarlun penodol o’r Beibl a gofyn am gymorth Duw i’n symud o ddealltwriaeth i ddiolchgarwch a mawl?
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 03.07.22