Yr wythnos ddiwethaf darllenais erthygl ddiddorol oedd yn cynnig cyngor ar sut i leihau’r defnydd o egni mewn cartrefi. Roedd nifer o’r awgrymiadau’n ddigon cyfarwydd, fel gostwng fymryn ar dymheredd y thermostat gwres canolog, neu wneud yn siŵr fod ein bylbiau yn fwy effeithiol. Ond fe gefais fy synnu gan un awgrym penodol, sef treulio llai o amser yn y gawod! Honnodd yr erthygl (ar wefan y BBC) y byddai cwtogi amser cawod o 8 i 4 munud yn arbed hyd at £70 y flwyddyn i’r rhai sy’n cymryd o leiaf 5 cawod yr wythnos. Rwyf wedi clywed am bobl yn mwynhau bath hamddenol er mwyn ymlacio, ond ydi hynny’n wir am gawodydd hefyd? Ai’r awgrym felly oedd bod angen i ni lanhau llai ar ein cyrff er mwyn arbed arian?!
Gwnaeth hyn i mi gofio am ddyn o’r enw Naaman y mae’r hanes amdano wedi’i gofnodi yn 2 Brenhinoedd 5. Pennaeth byddin Syria oedd Naaman, dyn pwysig a gafodd ei daro â’r gwahanglwyf – afiechyd poenus a olygai bod dioddefwyr yn gorfod byw ar wahân i weddill cymdeithas. Mae’n amlwg bod Naaman wedi cyrraedd pen ei dennyn oherwydd derbyniodd gyngor gan ferch gaeth o Israel (gelynion Syria) i fynd at Eliseus y proffwyd i geisio gwellhâd. Teithiodd gyda’i feirch, ei gerbydau, a llwyth o aur ac arian i wneud yn siŵr y byddai pawb yn gwybod mai gŵr o statws uchel ydoedd. Ond fe’i siomwyd yn arw gan ymateb Eliseus. Yn hytrach na seremoni llawn rhwysg i ddangos parch ac anrhydedd, neges ddi-nod a gafodd gan Eliseus yn ei gynghori i ymolchi saith gwaith yn afon Iorddonen. Yn ôl 2 Brenhinoedd 5:11 Beibl.net, ‘dyma Naaman yn gwylltio ac yn mynd i ffwrdd.’ Gwrthododd ffordd Duw o’i wella oherwydd ei falchder – doedd o ddim am iselhau ei hun y ffordd yma er mor druenus oedd ei gyflwr. Ond wedi ychydig o berswâd, ‘dyma fe’n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma’i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.’ (2 Brenhinoedd 5:14)
Yn yr hanes hwn cawn ddarlun arbennig o barodrwydd yr Arglwydd i iacháu a rhybudd rhag i ni wrthod gras Duw gan nad yw’n cyd-fynd â’n disgwyliadau ni. Nid peth hawdd yw syrthio ar ein bai a gofyn am faddeuant, ond wrth i ni droi mewn ffydd at Iesu Grist, cawn dderbyn cymaint yn fwy nag yr ydym yn ei haeddu: ‘Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a’n glanhau o bob anghyfiawnder.’ (1 Ioan 1:9)
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 16.10.22