Rydym yn gwybod erbyn hyn pwy yw’r trydydd person mewn blwyddyn i symud i mewn i Rif 10 Stryd Downing! Yn dilyn ymddiswyddiad Boris Johnson ar 7 Gorffennaf, a 50 diwrnod hynod Liz Truss wrth y llyw, Rishi Sunak yw’r Prif Weinidog diweddaraf yn Llundain. Mae’n ddigon posib eich bod wedi cael llond bol ar yr holl syrcas wleidyddol, ond mae’r misoedd diwethaf wedi dysgu rhai gwersi pwysig i ni. Yn ôl y sôn, pan ofynnwyd i un Prif Weinidog yn yr 20fed ganrif beth oedd yr her fwyaf i lywodraeth, ei ateb cofiadwy oedd, “Events, my dear boy, events.” A gallwn ddweud rhywbeth tebyg am ein bywydau ninnau hefyd. Er cymaint yr ymdrechwn i roi trefn ar bethau a gwneud penderfyniadau doeth, rhaid i ni gydnabod nad ydym mewn rheolaeth lwyr o’n bywydau. Wedi cyfnodau hir heb ryw lawer yn digwydd, mewn byd syrthiedig gallwn ninnau wynebu cyfnodau dryslyd o newidiadau poenus, ac argyfyngau nad oeddem yn barod amdanynt. Dyma pam y mae’r disgrifiad ohonom fel glaswellt neu flodeuyn y maes mor addas yn Eseia 40:6-7.
Wrth i ansicrwydd gwleidyddol ledaenu dros y ddeufis diwethaf, cynyddodd y galwadau croch am lywodraeth synhwyrol i geisio adennill mymryn o sefydlogrwydd. Yn y pen draw, dyna pam y gwelwyd cymaint o newid arweinwyr. Amser yn unig a ddengys pa fath o lywodraeth a ddaw yn sgil y newid mewn personél!
Ond wrth i ni wynebu corwyntoedd bywyd, newyddion da’r Beibl yw bod yna deyrnas sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd (Hebreaid 12:28). Teyrnas dragwyddol Dduw yw hon, ac nid trwy glyfrwch na daioni dynol y byddwn yn ei hennill; cawn ei derbyn trwy ras Duw wrth i ni ymddiried yn ein Harglwydd Iesu Grist.
Mae’r Beibl yn ein hatgoffa am y Deyrnas, ond hefyd yn rhoi gobaith i ni trwy bwysleisio pwy sy’n llywodraethu. Wrth wylio’r newyddion dros yr wythnosau nesaf, ac wrth wynebu beth bynnag a ddaw i’n rhan, cofiwn y disgrifiad hyfryd hwn o’r Un nad oes diwedd ar gynnydd Ei lywodraeth: 6 Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe’i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”. 7 Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a’i frenhiniaeth, i’w sefydlu’n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sêl Arglwydd y Lluoedd yn gwneud hyn. (Eseia 9:6-7)
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 30.10.22