Dydd Sul, 27 Tachwedd 2022

Oeddech chi’n un o’r miliynau fu’n gwylio’r gêm nos Lun diwethaf?  Hyd yn oed os nad ydych yn dilyn pêl droed, gallaf ddychmygu iddi fod bron yn amhosib osgoi’r holl sôn fu am ymddangosiad cyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958.  Y bwletinau newyddion, rhaglenni dogfen, Yma o Hyd yn cael ei chanu’n ddi-ddiwedd, ac wedi’r holl ddisgwyl, daeth y foment hanesyddol.  Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei bloeddio yn Qatar ac i ffwrdd â ni!  Sut oeddech chi’n teimlo?

Rhyw chwarter awr wedi’r gic gyntaf roeddwn i’n ddigon fflat (i gyd-fynd â pherfformiad di-fflach hanner cyntaf Cymru!)  Ar ôl i’r holl heip dawelu sylweddolais fy mod wedi gwylio cannoedd o gemau pêl droed dros y blynyddoedd, a bod hynny fwy nag unwaith wedi arwain at siom!  Ym mhob agwedd o fywyd gall edrych ymlaen gormodol at rywbeth arwain at siom pan nad yw’r realiti’n cyd-fynd â’n disgwyliadau.  Neu ar y pegwn arall, gallwn gael ein siomi ar yr ochr orau gyda’r hyn sy’n digwydd oherwydd bod ein disgwyliadau mor isel! (Dwi ddim yn cyfeirio at unrhyw gefnogwyr penodol!)

Wrth i dymor yr Adfent gychwyn y Sul yma, byddwn yn clywed llawer am ddyfodiad Crist i’n byd, ac os yw 64 mlynedd o ddisgwyl am Gwpan y Byd yn teimlo’n hir, dychmygwch yr edrych ymlaen yn Israel am y Meseia hir ddisgwyliedig!  Yn ystod gweinidogaeth ddaearol Iesu gwelwyd ymatebion tra gwahanol iddo.  Bu rhai yn barod i adael popeth i’w ddilyn Ef (Luc 5:28), ond dyfarniad Ioan oedd:  Daeth i’w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono.’ (Ioan 1:11).

Mae’n hawdd edrych yn feirniadol ar y rhai a wrthododd Iesu yn y Testament Newydd, ond sut ydym ni wedi ymateb i ddyfodiad Mab y Dyn?  Efallai nad ydym yn ei wrthwynebu’n gyhoeddus, ond gall ein calonnau fod yn gyndyn iawn i edifarhau ac ildio Iddo wrth i ni wynebu gwahanol heriau a themtasiynau.  Neu efallai mai siom sy’n pwyso arnom – siom o orfod delio ag amgylchiadau anodd nad oeddem erioed wedi disgwyl iddynt ddod i’n rhan.

Erbyn diwedd y gêm nos Lun, roedd fy siom wedi pylu’n sylweddol – ac nid oherwydd unrhyw beth yr oeddwn i wedi ei wneud!  Beth bynnag yw’n cyflwr ar hyn o bryd, mae’r Efengyl yn ein cymell i droi’n golwg mewn ffydd at Iesu a gadael i’r gwirionedd amdano siapio ein disgwyliadau.  ‘Er mwyn y llawenydd oedd o’i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio, gan ddiystyru gwarth, ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. Meddyliwch amdano ef, a oddefodd y fath elyniaeth ato’i hun gan bechaduriaid, rhag i chwi flino na digalonni.’  (Hebreaid 12:2-3)

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 27.11.22

Comments are closed.