Gan ei bod yn hanner tymor, buom fel teulu’n treulio’r ychydig ddyddiau diwethaf yng nghyffiniau Abertawe. Er bod gennym berthnasau a ffrindiau yno, mae’n rhaid i mi gyfaddef ei bod hi’n ardal ddieithr i mi. Ac o’r herwydd bu’n rhaid i mi ddibynnu’n drymach nag arfer ar y Sat Nav, a gwrando’n astud ar gyfarwyddiadau Gwenno (fu’n byw yn y ddinas am dair blynedd tra’n fyfyrwraig yno).
Gwnaeth hyn i mi sylwi profiad mor wahanol yw gyrru ar ffyrdd anghyfarwydd! Lle y byddwn fel arfer yn mynd o Lansannan i Abergele neu Ddinbych heb feddwl rhyw lawer am y daith, yn Abertawe mae pob cyffordd a chylchdro yn dod â phenderfyniadau brys angen eu gwneud! A’r cyfan yn eich gorfodi i ganolbwyntio’n galed ar le’r ydych, a lle fydd pen y daith.
Efallai fod rhai ohonoch yn crafu eich pen gan feddwl, pam y panics Rhodri? Os yw Gwenno’n gyfarwydd â’r ardal, gwranda arni hi! Cyngor doeth, ond cofiwch fod Gwenno’n gyfarwydd ag Abertawe ugain mlynedd yn ôl. Sawl gwaith ar y gwyliau daethom at drefn ffordd wahanol neu adeiladau newydd nad oedd Gwenno hyd yn oed yn gwybod sut i’w cyrraedd!
Tybed ydych chi wedi cael profiad tebyg wrth i’r cyfarwydd ddiflannu a chithau’n gorfod wynebu amgylchiadau a phenderfyniadau annisgwyl? Mae’n siŵr mai’r hyn sy’n ein hysgwyd fwyaf yw’r teimlad hwnnw o golli rheolaeth, o fod yn anghysurus gan nad ydym yn gallu troedio mor hyderus ag o’r blaen.
Os felly, cofiwn fod y Beibl yn annog credinwyr i fod yn ostyngedig, ac i beidio bod yn rhy sicr ohonom ein hunain. Dywed Diarhebion 3:5-7: ‘Ymddiried yn llwyr yn yr Arglwydd, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau’n union. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna’r Arglwydd, a chilia oddi wrth ddrwg.’
Mae’r Beibl yn cynnwys nifer helaeth o bobl wedi bod yn yr un cwch â ni! Nid oes angen i ni wybod pob cam o’r daith o’n blaenau, dim ond adnabod yr Un sy’n ein tywys. Iesu yw’r un a droediodd o’i wirfodd y ffordd erchyll honno i’r Groes er ein mwyn, er mwyn i’r Cristion fedru dweud fel Paul: ‘Ynddo ef, a thrwy ffydd ynddo, yr ydym yn cael dod at Dduw yn eofn a hyderus.’ (Effesiaid 3:12). Fel y disgyblion cyntaf, gallwn ninnau ‘adael popeth, a’i ganlyn Ef’ (Luc 5:11) trwy roi’n ffydd yng Nghrist. Wedi i ni wneud hynny, cawn ninnau brofi’r hyfrydwch o dderbyn yr Ysbryd Glân i’n nerthu a’n harwain bob cam o’r ffordd.
Rhodri
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 26.02.23