Dydd Sul, 12 Mawrth 2023

Wrth i mi ysgrifennu’r myfyrdod hwn ar fore dydd Iau, mae Llansannan dan garped trwchus o eira ac Ysgol Bro Aled wedi cau am y dydd.  Gallwch ddychmygu’r cyffro yn ein tŷ ni!  Er na fydd pawb yn gwirioni’r un fath, i’r rhai sydd ddim yn gorfod mentro allan i’r oerfel, anodd yw peidio rhyfeddu wrth sylwi ar y tirwedd o’n cwmpas wedi’i drawsnewid yn llwyr.  Hyd yn oed yn y gerddi bleraf, mae’r llanast yn cael ei orchuddio wrth iddo gael ei ddisodli gan brydferthwch claerwyn.  Dyma’r ddelwedd fyw sy’n cael ei defnyddio yn y Beibl i gyfeirio at yr Arglwydd yn maddau i’w bobl.  Dywed Eseia 1:18, “Yn awr, ynteu, ymresymwn â’n gilydd,” medd yr Arglwydd. “Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â’r eira; pe baent cyn goched â phorffor, fe ânt fel gwlân.”

Os darllenwch ddechrau pennod gyntaf Eseia, daw’n amlwg fod pobl Dduw ar dir peryglus gan eu bod wedi troi cefn ar yr Arglwydd.  Cânt eu ceryddu oherwydd eu drygioni a’u hanghyfiawnder nes bod Duw’n dweud ei fod yn syrffedu ar eu haddoliad gwag, ac nad yw am wrando ar eu gweddïau gan fod eu dwylo’n llawn gwaed (ad.15).

Efallai nad ydym ni’n gweld ein hunain yn yr un termau, ond mae’r Beibl yn dangos yn glir bod pawb ohonom wrth natur yn gwrthryfela yn erbyn ein Creawdwr.  Er bod yr arwyddion sy’n amlygu hynny’n amrywiol, gwelwn trwy’r Beibl sut mae hunanoldeb, anghyfiawnder a chasineb yn effeithio pob cenhedlaeth.

Ond diolch i’r Arglwydd, trwy Iesu Grist daeth gobaith i’n byd toredig.  Rhoddodd Eseia 1:18 gipolwg i ni o’r hyn fyddai’n digwydd, ac ar dudalennau’r Testament Newydd gwelwn yr uchafbwynt bendigedig wrth i Dduw sicrhau maddeuant i’r euog, a disodli hagrwch ein pechod gyda harddwch cyfiawnder Crist: ‘Ond os ydyn ni’n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni’n perthyn i’n gilydd ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau o bob pechod.’ (1 Ioan 1:7 beibl.net)

Yn y ddau ddyfyniad Beiblaidd o Eseia ac 1 Ioan, nid cyd-ddigwyddiad yw’r cysylltiad rhwng maddeuant ac edifeirwch.  Rhodd gras Duw yw maddeuant oherwydd bod Iesu wedi talu’r pris am ein pechodau ar y Groes, ond nid er mwyn i ni barhau â’n hen ffordd wrthryfelgar o fyw.  Trwy’r Efengyl, mae Duw yn ein galw at Iesu Grist i brofi hyfrydwch maddeuant, ac i fywyd newydd o gyfiawnder trwy nerth yr Ysbryd Glân.  ‘Peidiwch â gwneud drwg, dysgwch wneud daioni. Ceisiwch farn, achubwch gam y gorthrymedig, amddiffynnwch yr amddifad, a chymerwch blaid y weddw.’ (Eseia 1:17).

Rhodri

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 12.03.23

Comments are closed.