Dydd Sul, 26 Mawrth 2023

Brenin Gostyngedig

“Pwy ti’n feddwl wyt ti?”.  “Wyt ti’n gwybod efo pwy wyt ti’n siarad?”  Dw i’n cofio athro yn atgoffa disgybl o’i le a’i statws gyda’r union eiriau yna. Geiriau ydyn nhw sydd wedi eu defnyddio lawer gwaith gan rai sydd eisiau mynegi eu safle a’u hawdurdod. Mae hwn yn ffordd o ddyrchafu eich hun pan mae’n amlwg eich bod yn colli rheolaeth. Dro arall defnyddir y geiriau yma pan mae rywun eisiau amddiffyn ei hun rhag cael cam.

Os oedd gan unrhywun hawl i ddefnyddio’r geiriau yma, yr Arglwydd Iesu Grist oedd hwnnw pan gafodd ei arestio a’i gymryd o ardd Gethsemane i gael ei gamdrin a’i wawdio gan yr awdurdodau a’r dorf. Dyma beth o’r hanes:

“Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i’r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o’i gwmpas. Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano; plethasant goron o ddrain a’i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o’i flaen a’i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” Poerasant arno, a chymryd y wialen a’i guro ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a’i wisgo ef â’i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i’w groeshoelio.” (Mathew 27:27-31). 

Mae’n hawdd camfarnu Iesu heddiw hefyd. Ond sylwch ar ymateb Iesu. Does yna ddim ymdrech i ddyrchafu ei hun, dim ond gostyngeiddrwydd tawel geir ganddo. Gwelwn ei fod yn Un oedd yn fodlon dioddef dros bobl eraill.  Mewn gwirionedd, roedd yna frenin mwy o lawer na Brenin yr Iddewon yma.  Ef oedd Brenin Nef a’r holl greadigaeth. Roedd ganddo’r hawl i edliw eu camgymeriad a’u hamarch. Roedd ganddo’r hawl i’w gosod ar brawf a’u cosbi am eu gweithredoedd. Mae’r un hawl ganddo heddiw.  Duw gostyngedig yw Iesu. Un a ddewisodd ddweud dim. Un a ddewisodd beidio â dinistrio ei elynion ond yn hytrach agor ffordd cymod i’r rhai a gredodd.

Yn ei ostyngeiddrwydd tawel a’i barodrwydd i farw y deallwn ei gariad tuag atom. Gelwir arnom ninnau i’w dderbyn a’i ddilyn mewn gostyngeiddrwydd a diolchgarwch a rhoi ei le cywir iddo yn ein bywyd fel Arglwydd a Gwaredwr y Pasg hwn.

Y Parch. Robert O. Roberts

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 26.03.23

Comments are closed.