Cyfrifoldeb pwy?
Tydi pobl yn gyffredinol ddim yn hoff iawn o gymryd cyfrifoldeb am ryw bethau. Mae’n haws gweld bai ar rywun arall am beidio â chyflawni rhyw ddyletswydd. Ond y gwir ydi fod gan bawb gyfrifoldebau yn y byd hwn; cyfrifoldeb dros y byd a roddwyd yn ein gofal, cyfrifoldeb at ein gilydd fel pobl, cyfrifoldeb am y math o gymdeithas a gwlad yr ydym yn byw ynddi. Mae rhai cyfrifoldebau yn gyffredin i bob un ohonom fel bodau dynol ac mae cyfrifoldebau penodol yn cael eu rhoi i ni fel unigolion. Daw rhai yn rhinwedd ein swyddi drwy’r doniau a’r bendithion a roddwyd i ni, ond cuddio oddi wrth eu cyfrifoldeb a wnawn yn aml, fel y mae hanes Adda ac Efa yn ei ddysgu i ni. Bu iddynt anwybyddu gorchymyn Duw, a throi i feio ei gilydd am y canlyniadau, (gweler Genesis 3:1-13). Ymroi i wasanaethu wnaeth Iesu Grist pan ddaeth i’r byd. Darllenwn yn Luc 4 fel y cafodd ei demtio i gymryd y ffordd hawdd ond dewisodd lwybr gwasanaeth a gafael yn y cyfrifoldeb o fod yn waredwr i’r byd. Yna galwodd ar ei ddisgyblion i fod yn dystion iddo ac i’r gwaith achubol a gyflawnodd ar y groes, (gweler Luc 24:44-49). Wedi’r atgyfodiad, gwnaethant hynny gan gyhoeddi ffordd Iesu Grist, a hynny ar waethaf yr erledigaeth a ddaeth i’w rhan. Galwad oedd ar i bobl weld fod ail-ddechrau gyda Duw yn bosibl a’u hannog i ysgwyddo eu cyfrifoldebau fel dinasyddion ei deyrnas. Cofiwn ei eiriau olaf i’w ddisgyblion cyn esgyn i’r nef, “Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi’i ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.” (Mathew 28:18-20)
Mae Duw yn galw ar bob un ohonom drwy’r byd i’w garu o a charu ein gilydd, a gweithio i sicrhau lles bob un o’r ddynolryw. Rhoddwyd cyfrifoldeb arnom i fod yn dystion i Iesu Grist. Ydym ni yn bobl sy’n gwneud gwahaniaeth er gwell yn yr eglwys neu yn y capel, yn ein bro a thros ein cyd-ddyn ledled y byd?
Y Parch. R. O. Roberts
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 07.05.23