Dydd Sul, 21 Mai 2023

Y deugeinfed dydd

Dydd Iau diwethaf (neu heno, os cawsoch y rhifyn hwn trwy e-bost) oedd y deugeinfed diwrnod wedi Sul y Pasg: dydd cofio esgyniad yr Arglwydd Iesu Grist. Am ddeugain niwrnod wedi iddo atgyfodi, ymddangosodd Iesu i’w ddisgyblion cyn diflannu wedyn: dod a mynd o’u golwg cyn eu gadael yn derfynol ar y dydd a alwn ni’n ‘Ddydd Iau Dyrchafael’. Mae Luc yn cofnodi ei ymadawiad mewn un frawddeg gryno: ‘Wedi iddo ddweud hyn, a hwythau’n edrych, fe’i dyrchafwyd, a chipiodd cwmwl ef o’u golwg’ (Actau 1:9). Am olygfa ryfeddol! Iesu Grist yn cael ei godi oddi ar y ddaear ac yn esgyn yn uwch ac uwch nes bod cwmwl rywsut yn lapio o’i amgylch a’i gymryd o olwg ei ddisgyblion. Parodd yr olygfa drafferth i lawer o bobl. Ei godi’n llythrennol oddi ar y ddaear? Oes disgwyl i ni gredu bod hyn wedi digwydd? Oes, wrth gwrs. Mae’n rhan o hanes Iesu ac yn rhan o’r Efengyl. Nid yw ronyn mwy anhygoel na geni ac atgyfodiad Iesu. Os daeth Mab Duw o’r nefoedd i’r ddaear trwy ei eni ym Methlehem, ac os daeth Iesu o farwolaeth i fywyd trwy ei atgyfodiad, pam na all fynd o’r ddaear i’r nefoedd trwy ei esgyniad? Mae ein cyndynrwydd i gredu ac i sôn am y digwyddiad yn rhyfedd ac annisgwyl o gofio bod y disgyblion yn llygad-dystion iddo.

Yn ôl Luc, un peth o bwys y mae’r Esgyniad yn ei ddangos yw bod gwaith Crist yn para. Ysgrifennodd Luc ddau lyfr: Efengyl Luc a Llyfr yr Actau. Ac meddai, ‘Ysgrifennais y llyfr cyntaf … am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneud a’u dysgu hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny’ (Actau 1:1). Yn Efengyl Luc, ceir hanes Iesu: ei eni, ei fywyd a’i weinidogaeth a’i ddysgeidiaeth, ei farwolaeth a’i atgyfodiad a’i esgyniad. Ond dechrau’r stori yw hynny: mae’r stori’n parhau yn Llyfr yr Actau gan fod Iesu, wedi iddo esgyn i’r nefoedd, yn parhau ei waith trwy ei ddisgyblion sy’n cyflawni eu gweinidogaeth yn nerth ei Ysbryd Glân.

Ar un wedd, pobl a adawyd yn amddifad oedd y disgyblion, ond roedd Iesu am barhau ei waith trwyddynt. Wedi bod yn yr Oedfa Sefydlu ym Mangor y Sadwrn diwethaf, feiddiwn ni awgrymu y gall rhai ohonoch chithau deimlo’n amddifad heddiw wedi blynyddoedd o weinidogaeth ffyddlon Rhodri a’i ragflaenwyr? Mae’r Dyrchafael yn eich atgoffa bod gwaith yr Arglwydd Iesu’n parhau, a bod yr Ysbryd a fu’n arwain ac yn cynnal yr apostolion yn abl i ddal i’ch arwain a’ch cynnal chithau yn y gwaith hwnnw.

Y Parch. John Pritchard

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 21.05.23

Comments are closed.