Ping!
Ping! Neges arall ar WhatsApp y teulu. Chi sy’n anghyfarwydd â thechnoleg ffonau clyfar, dychmygwch rywun yn canu cloch y drws bob dau funud efo telegram a bydd gennych syniad go lew be’ ydi WhatsApp – a’i ‘bing’!) Fel arfer, rhannu gwybodaeth am y teulu ar wasgar, gwneud trefniadau i gyfarfod â’i gilydd, neu drafod y diweddaraf am bêl droed a wna’r plant trwyddo. Mae’n gyfrwng hwylus, er cyfaddef mai tipyn o niwsans ydi’r ping sy’n fy nhynnu oddi wrth dasg bwysig i weld be’ gafodd Dafydd i swper!
Ond nos Sadwrn diwethaf, nid pêl droed na gwleidyddiaeth na hyd yn oed luniau’r wyrion oedd yn gyfrifol am y pingio. Un gair yn unig oedd cynnwys y neges gyntaf o Gaernarfon: ‘Glaw!’ Dim ond y defnyn lleiaf; ond roedd yn ddigon i sgwennu adra yn ei gylch. A ping ‘Dim glaw yma’ a phing ‘Dim glaw eto’ fu hi am funudau, cyn i’r negeseuon gyrraedd o Gaerdydd – ‘Wedi glawio pnawn ma’, ac o Lerpwl – ‘Storm yma!’
Ddaeth y glaw ddim i Lanberis nos Sadwrn, a bu raid aros tan oriau mân fore Llun am y gawod gyntaf gwerth sôn amdani. Nid bod honno’n drom iawn chwaith, a melys moes mwy yw hi yma o hyd ganol yr wythnos. Ond dwi’n deall iddi fod yn storm ym Mro Aled – neu o leiaf yn Llannefydd – nos Sadwrn a dydd Sul. Ac er ein cwyno mynych, roedd pawb yn falch o weld hynny o law a gawsom wedi’r wythnosau o dywydd sych, crasboeth.
Bu hen ddisgwyl am law yn Israel yn nyddiau Elias. Wedi dwy flynedd a mwy o sychder, rhoddodd Duw ar wybod i’r proffwyd bod glaw i ddod, a rhybuddiodd Elias y brenin Ahab i ffoi rhag i’r glaw ei rwystro! Oherwydd addewid Duw, credai Elias y deuai glaw trwm er na welai ond cwmwl bychan (1 Brenhinoedd 18:41-46). Mae hynny’n f’atgoffa o’r stori am y wraig a aeth i gyfarfod gweddi i alw am law mewn cyfnod o sychder mawr gan fynd â’i hymbarél efo hi! Y fath ffydd! Tybed faint o weddïo am law a wnaed dros yr wythnosau diwethaf? Ac yn y sychder ysbrydol a’n blinodd ers mwy o lawer na’r ddwy flynedd sych a brofodd Elias a’i bobl, gweddïwn y bydd yr Ysbryd Glân yn glawio arnom ei fendith gan weddnewid ein gwlad trwy ein bywhau ni fel pobl Dduw a dwyn llaweroedd at yr Arglwydd Iesu Grist. Diolchwn am y dafnau lleiaf o fendith Duw, gan ddyheu am fwy a deisyf bob dydd ar iddo droi’r dafnau mân yn gafodydd gwlithog ac adnewyddol.
Y Parch. John Pritchard
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 18.06.23