Llwyddiant
Rydym wedi arfer â chanu clodydd y rhai sydd wedi llwyddo mewn gwahanol feysydd cyhoeddus, boed yn eisteddfod neu chwaraeon neu ym myd addysg, a da o beth yw gwerthfawrogi a chydlawenhau yn llwyddiant pobl eraill. Ond gadewch i ni ystyried am funud un a dderbyniodd y ganmoliaeth uchaf y gellir ei chael ac yntau yn ymddangos fel pe na bai wedi cyflawni dim byd.
Fe gofiwch i’r Arglwydd Iesu Grist ddod at Ioan Fedyddiwr i gael ei fedyddio yn afon yr Iorddonen. Bryd hynny y bu i Dduw gyhoeddi amdano “Ti yw fy mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu” Luc 3:22.
Ond beth oedd Iesu wedi’i wneud i dderbyn y fath ganmoliaeth gan Dduw? Nid oedd hyd yma wedi cyflawni’r un wyrth. Nid oedd wedi pregethu yr un bregeth. Nid oedd wedi iacháu yr un gwahanglwyf. Nid oedd wedi galw rhai i fod yn ddisgyblion. Prin fod neb y tu allan i Nasareth yn ei adnabod. Roedd wedi byw yn dawel yn Nasareth am dri deg mlynedd. Gwyddom yn ystod y cyfnod hwnnw fod gan Dduw ei lygaid arno a gwyddom iddo “gynyddu mewn doethineb a maintioli, a ffafr gyda Duw a’r holl bobl.” Luc 2:52.
Gwelwn felly mai’r hyn sy’n digwydd yn y dirgel sy’n cyfri gyda Duw. Yn nhawelwch Nasareth treuliodd Iesu amser gyda’i Dad nefol. Ei berthynas â’i Dad nefol oedd yn mowldio ei fywyd. Hyn sy’n cyfri i’r Arglwydd heddiw hefyd, sef yr hyn sydd yn ein calon. Cofiwn mai “Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae’r Arglwydd yn gweld beth sydd yn y galon” 1 Samuel 16:7. Mae’n chwilio am bobl sydd â’u calon yn eiddo iddo fo. Ydyn ni wedi llwyddo i roi ein calon iddo?
Yn nhawelwch gwlad Bro Aled, fel yn Nasareth, mae cyfle i feithrin perthynas â Duw y nefoedd. Gallwn dyfu mewn adnabyddiaeth o Dduw yn Iesu Grist.
Wrth i ni wynebu cyfnod newydd gadewch i ni sicrhau ein bod yn gwneud amser i dyfu yn ein hadnabydiaeth o Dduw trwy ddarllen ei Air yn y Beibl, trwy weddïo a chyd addoli. Yna gall yr Arglwydd wneud defnydd ohonom.
Y Parch. R. O. Roberts
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 02.07.23