20 mya
Maen nhw’n deud y bydda i funud yn hwyr yn yr oedfa fore Sul (heddiw, os darllenwch chi hwn ddydd Sul, Medi 17). Pwy sy’n deud? Y Llywodraeth, yn y daflen ‘Byddwch yn barod am 20mya’ a anfonwyd atom i’n hatgoffa am y newid i’r ddeddf a ddaw i rym heddiw. ‘Bydd siwrneiau oddeutu munud yn hirach’ yn ôl y daflen. Ond waeth i mi heb â smalio mod i’n deall hynny! Dyw’r daflen ddim yn manylu ynghylch hyd siwrneiau; dim ond cyfeirio at y ‘Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022’. A do, mi geisiais ddarllen hwnnw! Hyd y gwelaf, honnir y bydd pob milltir o daith ar lonydd 20 milltir yr awr yn cymryd oddeutu 46 eiliad yn fwy nag ar lonydd 30 milltir yr awr. Dwi ddim yn ddigon o fathemategydd i fedru deud faint hwy o amser gymer y daith, dyweder, o Lanberis i Gaerdydd. Tipyn mwy na munud, yn sicr!
Ydi, mae’r ddeddf yn newid. Wnaiff hynny fawr o wahaniaeth yma yn Llanberis gan fod prysurdeb y lôn yn golygu na ellir mynd lawer cyflymach na 20 milltir yr awr p’run bynnag. Ond bydd yn stori wahanol lawr y lôn yn Nant Peris, sydd fel arfer yn dipyn tawelach. Ond anodd neu beidio, rhaid cydymffurfio â’r ddeddf newydd. A chwarae teg i’r Llywodraeth, mi ddylai pawb fod yn ymwybodol ohoni erbyn hyn.
Newid ac addasu ydi hanes sawl deddf. Ond yr un ddeddf nad yw’n newid o oes i oes ydi deddf Duw ar ein cyfer. Wrth gwrs, nid oes angen newid honno am ei bod eisoes yn berffaith. Mae hi i’w gweld yn y Deg Gorchymyn (yn Exodus 20), ac mae wedi ei chrynhoi ymhellach gan Iesu Grist yn y ddau orchymyn: ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl … Câr dy gymydog fel ti dy hun’ (Mathew 22:37-38). Yr un yw’r gyfraith. Nid yw gofynion Duw yn newid. Beth bynnag y newidiadau i’r gymdeithas yr ydym yn rhan ohoni a’r amgylchiadau allanol a wynebwn, yr un yw disgwyliadau Duw: ein bod yn ei garu Ef â’r cyfan sydd ynom ac yn caru eraill yr un modd. Ac o wybod mor anodd yw gwneud hynny ac mor aml y syrthiwn yn fyr o’r nod, mae’n dda cofio mai cyfraith gras ydi cyfraith Dduw gan mai ei bwriad ydi dangos i ni’r union fethiannau hynny er mwyn i ni geisio’r maddeuant a’r cymod a ddarparwyd ar ein cyfer trwy Iesu Grist. Gyrrwch yn ofalus.
Y Parch. John Pritchard
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 17.09.23