Dydd Sul, 1 Hydref 2023

Rwyt ti’n cyfrif!

Mae llawer o bobl yn tybio nad ydi Duw yn malio dim amdanon ni. Ond darlun gwahanol iawn a gawn o Dduw yn y Beibl ac yn nhystiolaeth ei ddilynwyr. Dweud bod Duw yn malio wnaeth Iesu Grist, dweud ein bod yn werthfawr yn ei olwg. “Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i’r ddaear heb eich Tad. Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo.  Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi’n werth mwy na llawer o adar y to.”  “Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.” (Mathew 10:29-32)

Er mai aderyn digon cyffredin a dinod ydi aderyn y to, mae’r Arglwydd Iesu yn datgan fod gan Dduw ddiddordeb ynddo. Ond rydym ni fel pobl yn werth llawer mwy gan yr Arglwydd. Ffordd yr Arglwydd Iesu o bwysleisio hyn ydi cyfeirio at y ffaith fod ein Tad nefol wedi rhifo’r gwallt sydd ar ein pen.  Mae Duw’r nefoedd am i ni wybod bod ei ofal amdanom y tu hwnt i be’ y gallwn ei fesur. Mae’n dweud ei fod eisiau ein harddel fel ei bobl. Cawn ef yn Iesu Grist yn un sy’n dod i’r byd i chwilio am y rhai sydd wedi crwydro ymhell oddi wrtho. “Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.” (Luc 19:10)  Mae ei allu a’i nerth mawr wedi ei amlygu yn ei weithredoedd yr adroddir amdanynt yn y Beibl ac yn nhystiolaeth y rhai sydd wedi ei arddel dros y canrifoedd. Duw sy’n tywallt bendithion arnom ydy o, bendithion daearol a bendithion ysbrydol. Fel hyn mae’r Salmydd yn dweud, “Da yw moliannu’r Arglwydd, a chanu mawl i’th enw di, y Goruchaf, a chyhoeddi dy gariad yn y bore a’th ffyddlondeb bob nos…” (Salm 92:1).  “Dewch i mewn i’w byrth a diolch ac i’w gynteddau a mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw. Oherwydd da yw’r Arglwydd; y mae ei gariad hyd byth, a’i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.” (Salm 100:4-5)

A hithau’n fis yr ŵyl ddiolchgarwch draddodiadol gadewch i ni ystyried bendithion Duw i ni a dathlu ei ofal mawr drosom.

Y Parch. R. O. Roberts

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 01.10.23

Comments are closed.