Rhyfel eto
Nid hanesydd mohonof: dwi ddim yn gyfarwydd â’r holl hanes. Nid gwleidydd mohonof: dwi ddim yn gwybod yr atebion. Ac nid un o drigolion Israel na Gaza mohonof: does gen i ddim profiad o’u hamgylchiadau. Ond er cymhlethed y sefyllfa sy’n gwaethygu’n ddyddiol, onid oes rhai pethau syml a sylfaenol?
Onid yw’n amlwg nad oes neb yn ennill mewn rhyfel, a bod y miloedd a laddwyd yn Israel a Gaza dros y dyddiau diwethaf yn brawf o hynny? Oni ddylasai fod yn amlwg hefyd fod y gwarchae llym ar Gaza dros flynyddoedd lawer yn annynol? Ac oni ddylai fod yn amlwg i lywodraethau’r byd nad yw cefnogaeth ddiamod i’r naill ochr na’r llall ond yn cyfiawnhau’r trais a’r lladd a fydd yn parhau dros y dyddiau a hyd yn oed – Duw a’n gwaredo – yr wythnosau a’r misoedd nesaf?
Wrth gwrs bod ymosodiad Hamas ar Israel, a lladd dros fil o bobl o bob oed a chipio gwragedd a phlant yn wystlon, yn annynol a barbaraidd. Ac wrth gwrs bod ymateb Israel o amddifadu trigolion Gaza o fwyd a dŵr a thrydan, a lladd nifer tebyg yno’r un mor annynol. Ac onid annynol hefyd yr awgrym y gall eraill, yn arbennig Lywodraeth yr Unol Daleithiau, roi i bob pwrpas rwydd hynt i Israel wneud a fyn am rai wythnosau cyn pwyso arni i ymbwyllo a lleihau ei hymosodiadau ar Gaza? Pwy a ŵyr beth a ddigwydd mewn un diwrnod heb sôn am rai wythnosau wrth i lywodraethau, yn cynnwys Llywodraeth San Steffan, ruthro i ddatgan cefnogaeth ddiamod i Israel yn ei dioddefaint, ond trwy hynny roi’r argraff – o bosibl yn anfwriadol – o fod yn gwbl ddifater ynghylch dioddefaint pobl Gaza?
Ers bore Sadwrn diwethaf, gwelwyd y trais a’r lladd yn dwysáu; ac mae’r adroddiadau cyson nid yn unig o Israel a Gaza ond hefyd o’r Lan Orllewinol a Libanus yn frawychus ddychrynllyd. Mae anobaith ac arswyd a chwerwedd a chasineb a dicter a dialedd, o bob cyfeiriad, yn esgor ar gyflafan y mae’n amhosibl rhagweld ei gwaethaf, heb sôn am ddarogan ei diwedd.
Ac o anghysur a diogelwch f’anwybodaeth a’m dieithrwch, mentraf weddïo dros bobl Israel a Gaza a’r Dwyrain Canol yn ehangach, y daw rywfodd ac o rywle ddoethineb a dewrder i ddeisyfu a gweithredu’r heddwch a fydd wedi ei wreiddio mewn gwir gyfiawnder a pharch. Ac er bod deall cymaint â phosibl am unrhyw sefyllfa’n gymorth wrth weddïo, diolch y medrwn ar brydiau hefyd fentro at Dduw yn ein hanwybodaeth a’n dryswch, ac yn ein harswyd a’n tristwch.
Y Parch. John Pritchard
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 15.10.23