Newyddion da i bobl dlawd!
Mae cynnydd mawr wedi bod yn y defnydd o ‘fanciau bwyd’ yn ein gwlad. Mannau ydi’r rhain lle gellir cael bwyd pan mae gwir argyfwng yn codi. Sefydlwyd rhai mewn amryw o ardaloedd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n destun gofid gweld pobl ein gwlad yn gorfod dibynnu ar fanc bwyd i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae mwy nag erioed yn eu defnyddio y dyddiau hyn. Amod derbyn bwyd ydi cael gair gan berson cydnabyddedig megis meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu berson awdurdodedig arall sy’n cadarnhau’r angen amdano. Neu gallwch fynd i’r banc bwyd i geisio cymorth ac arweiniad. Bu un wraig yn adrodd ei phrofiad o orfod mynd i’r banc bwyd. Roedd yn deimlad anghyfforddus y tro cyntaf meddai ond fod y gofal a’r croeso a dderbyniodd wedi lleddfu ei hofn a’i phryder. Diolchwn fod rhai wedi mynd ati i sefydlu llefydd o’r fath mewn cyfnod o wasgfa ariannol. Wrth i ni wynebu tymor oer y gaeaf a’r Nadolig bydd mwy a mwy angen y banciau hyn.
Cofiwn hefyd fod yr efengyl Gristnogol wedi ei sefydlu gan Dduw’r Tad Nefol am ei fod yn gweld angen arnom ni. Cofiwn eiriau Iesu “Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd … Gwyn eu byd y rhai sy’n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon.” (Mathew 5:3-6) Dod a derbyn gras Duw ydi’r amod er cael ein digoni a’n cysuro gyda meddiannau teyrnas Dduw. Tristwch y sefyllfa ydi fod rhai o hyd yn ei chael yn anodd dod oherwydd fod balchder yn eu rhwystro i gydnabod angen am faddeuant a chynhaliaeth Duw. Teimlad o annheilyngdod sy’n cadw eraill draw. Clywch eiriau yr Arglwydd trwy’r Proffwyd Eseia, “Dewch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno; dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch. Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb dâl.” Eto clywch ei wahoddiad trwy ei Fab, Iesu Grist. “Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.” (Mathew 11:28-29) Meddai Iesu wrthynt, “Myfi yw bara’r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy’n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy’n credu ynof fi. (Ioan 6:35)
Dim ond dod a derbyn yn ddiolchgar sydd raid inni. Dyna ydi newyddion da!
Y Parch. R. O. Roberts
Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 29.10.23