Dydd Sul, 10 Mawrth 2024

Eironi Sul y Mamau

Ychydig o sylw a roesom yn y capeli i lawer o’r dyddiau gŵyl a ddethlir gan draddodiadau Cristnogol eraill, ac aeth eu hystyr a’u harwyddocâd o’r herwydd yn angof i ni. Un o’r dyddiau hynny yw Sul y Mamau, a ddethlir heddiw. Tybed faint ohonoch sy’n sylweddoli nad oedd a wnelo’r Sul hwn yn wreiddiol ddim oll â mamau?

Byddai Eglwyswyr da’n medru dweud wrthych nad mamau na neiniau ond yn hytrach eglwysi yw’r ‘mamau’ yn ‘Sul y Mamau’. Yn wreiddiol, ac yn draddodiadol, cyfle oedd y Sul hwn i bobl fynd adref i’w ‘mam eglwys’. Byddai plant oedd yn gweithio oddi cartref, yn cynnwys merched a fyddai’n gweini mewn trefi dieithr, yn cael diwrnod o’r gwaith i fynd adref i addoli yn yr eglwysi y cawsant eu magu ynddynt. Yn sgil hynny wrth gwrs, deuai cyfle i weld y teulu; ond ymweld â’r ‘fam eglwys’ oedd pwrpas y diwrnod.

Cefais fy sicrhau gan ffrind i mi yn Llanberis bod yr Eglwys yng Nghymru’n dal i roi sylw i ystyr wreiddiol y dydd. Ond eironi’r peth yw ein bod ers tro byd wedi arfer â gweld pobl yn cadw draw o’r oedfa neu’n ymddiheuro na fydd eu plant yn yr Ysgol Sul “am ei bod yn Sul y Mamau, a bod y teulu wedi trefnu i fynd am ginio”. Wrth reswm, fedr gweinidog na’r traddodiad anghydffurfiol a anwybyddodd y dyddiau gŵyl ddim synnu na chwyno o weld peth felly!

Beth bynnag a wnawn o Sul y Mamau, mae tarddiad yr ŵyl yn gyfle i ni ddiolch am ein ‘mam eglwys’ ein hunain. I rai ohonoch, yr eglwys yr ydych yn aelod ynddi yw honno. I eraill, eglwys arall, yn y fro hon neu yn yr ardal y’ch magwyd ynddi. Ac i eraill eto, nid eglwys eich plentyndod ond yr eglwys y daethoch i ffydd yn Iesu Grist trwyddi. Mae amryw o’r eglwysi hynny, gwaetha’r modd, wedi eu datgorffori erbyn hyn, a’r capeli wedi hen gau. Ond ble bynnag oeddent, a beth bynnag eu hanes heddiw, diolchwn i Dduw amdanynt gan drysori o’r newydd gymdeithas a thystiolaeth a gweinidogaeth yr eglwysi a’r bobl a gyflwynodd i ni’r newyddion da am Grist a’i groes a’i fedd gwag. Ac o ddiolch amdanynt, gwerthfawrogi hefyd ddarpariaeth a chymdeithas a gweinidogaeth ein heglwysi heddiw, gan ymroi hyd eithaf ein gallu i’w gwaith a’u haddoliad a’u cenhadaeth yn y gobaith y gwelwn, trwy ras Duw, lawer eto’n dod i’w hanwylo fel eu ‘mam eglwysi’ hwythau.

Y Parch. John Pritchard

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 10.03.24

Comments are closed.