Dydd Sul, 21 Ebrill 2024

Y Graig y’ch Naddwyd Ohoni

Mae hel achau wedi dod yn beth cyfarwydd iawn yn ein cymdeithas. Rydw i yn cyfarfod rhywun o hyd sy’n ymddiddori yn y maes ac yn dweud eu bod wedi dod ar draws un o’u hen deidiau. Wrth edrych yn ôl cawn ryw ymwybyddiaeth o ble y daethom. Daw ambell destun ymffrost ac ambell ddafad ddu i’r golwg. Yn sicr, wrth edrych ar gefndir unrhyw un, fe ddysgwn mai amherffaith ydym i gyd a bod gennym bethau i ymfalchïo ynddynt a phethau i dristáu o’u herwydd. Mae hyn yn wir i ni fel cenedl hefyd.

Yn y Beibl mae’r proffwyd Eseia yn annog ei genedl i ymhyfrydu yn ei thras gyda’r geiriau, “Edrychwch ar y graig y’ch naddwyd ohoni ac ar y chwarel lle’ch cloddiwyd.” (Eseia 51:1).  Mae’n cymell y bobl i ddangos yr un teyrngarwch i Dduw ac a wnaeth eu cyn-dadau, Abraham, Isaac a Jacob.  Heb ymyrraeth Duw ym mywydau’r rhain, fyddai ’na ddim cenedl i ymfalchïo ynddi a’i chadw. Duw a’i creodd ac a’i bendithiodd. Mae’r un geiriau yn ein cymell ninnau i arddel ffydd tebyg yn Nuw ac ymroddiad tebyg iddo.

Mae hanes arbennig i’n cenedl ni’r Cymry hefyd.  Gwyddom fod y ffydd Gristnogol wedi chwarae rhan allweddol yn ein datblygiad a’n parhad fel cenedl. Heb y Beibl Cymraeg a phobl y ffydd, mae lle i amau a fyddem ‘yma o hyd’.  Gwaith Duw ydym fel cenedl ac fel unigolion.  Fo sy’n rhoi ystyr a phwrpas i’n bodolaeth.  Wrth geisio ei deyrnas a’i ewyllys o y darganfyddwn wir werth ein cenedl a’n hiaith. Os nad oes ystyr i’r cyfan, pa les ymdrechu i amddiffyn gwlad ac iaith a chymuned? Cawn yn Iesu Grist Waredwr ac Arglwydd i’n bywyd personol, i’n cymunedau ac i’n cenedl.

Gwyliwn golli ystyr ein bodolaeth fel unigolion ac fel cenedl wrth anwybyddu’r Graig y naddwyd ni ohoni. Weithiau fe â talp o hanes gwerthfawr ar goll am nad oeddem wedi holi ein rhieni neu daid a nain am eu cefndir a’u profiad.

Ceisiwn yr Arglwydd tra gellir ei gael. Edrychwn eto ar y graig y naddwyd ni ohoni.

Y Parch. R. O. Roberts

Cliciwch yma i gael y copi llawn: Llais Bro Aled 21.04.24

Comments are closed.